Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch i’r Aelod dros Gwm Cynon am ei chwestiwn. Gwyddom fod Dechrau’n Deg yn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn Rhondda Cynon Taf. Eleni, rydym wedi ymrwymo dros £6.8 miliwn, gan alluogi’r awdurdod lleol i gynorthwyo tua 3,270 o blant a’u teuluoedd.