<p>Darpariaeth Dechrau’n Deg yng Nghwm Cynon</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:51, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae Dechrau’n Deg wedi cael effaith drawsnewidiol ar fywydau degau o filoedd o blant ledled Cymru, gan gynnwys yn fy etholaeth, sef Cwm Cynon, yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad. Fodd bynnag, gwn fod pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â’r sail ddaearyddol ar gyfer dyrannu’r cymorth. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y plant sydd fwyaf o’i angen?