Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 22 Mehefin 2016.
Weinidog, yn amlwg, mae gan y Llywodraeth ymrwymiad mewn perthynas â gofal plant—cael polisi gofal plant cyffredinol o hyd at 30 o oriau—ac mae’n rhywbeth rydym yn ei groesawu ac mae’n debyg i’r hyn a oedd gennym yn ein maniffesto ein hunain. A oes asesiad effaith wedi’i wneud—rwy’n sylweddoli ei bod yn ddyddiau cynnar ar y Llywodraeth—ynghylch y gallu i gomisiynu’r ddarpariaeth honno ac nad oes unrhyw risg o beryglu’r ddarpariaeth bresennol, megis mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, megis Cwm Cynon ac ardaloedd eraill yn fy rhanbarth etholiadol? Mae yna broblem o ran y capasiti, yn amlwg, i allu cyflawni’r ymrwymiad cyffredinol hwnnw, ac nid ydym eisiau peryglu cynlluniau presennol os oes angen i’r capasiti dyfu yn y lle cyntaf.