Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch i’r Aelod am grybwyll un o’n hymrwymiadau arloesol o ran gofal plant. Gallaf sicrhau’r Aelod nad yw’n debyg o gwbl i gynnig gofal plant y Ceidwadwyr; roedd yn un penodol iawn a gyflawnwyd gan Lafur Cymru. Rwy’n gweithio gyda fy nhîm a chyd-Aelodau yn y Cabinet ar y ffordd orau o gyflwyno’r rhaglen hon. Capasiti: mae’r Aelod yn iawn—mae capasiti yn fater sy’n ymwneud â sut rydym yn cyflawni hynny, ond mae’n rhywbeth a fydd, gan weithio gyda’r sector preifat a’r sector cyhoeddus i’w gyflwyno, o fudd i deuluoedd, ond yn bwysicach, bydd o fudd i blant.