<p>Mynd i’r Afael â Thlodi yng Nghaerffili</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:55, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Mae tlodi bwyd yn parhau i fod yn broblem i lawer o aelwydydd yng Nghaerffili a ledled Cymru, Ysgrifennydd y Cabinet. Y gaeaf diwethaf, elwodd mwy na 2 filiwn o’r bobl fwyaf agored i niwed o £310 miliwn o gymorth gyda’u biliau tanwydd drwy gynllun disgownt cartrefi cynnes Llywodraeth y DU. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ategu fy nghroeso i’r newyddion fod newidiadau i’r cynllun yn golygu y bydd 70,000 yn fwy o deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd, cwsmeriaid anabl a phobl eraill sy’n agored i niwed yn gymwys i wneud cais am gymorth i gynhesu eu cartrefi yng Nghymru y gaeaf hwn?