Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 22 Mehefin 2016.
Am eiliad roeddwn yn meddwl fy mod wedi gweld dagrau crocodeil gan yr Aelod mewn perthynas â’i gwestiwn. Mae’n fy mhoeni bod y synnwyr o eironi a ddaw o’r meinciau hynny, o olchi eu dwylo o’r effaith a gaiff ei Lywodraeth yn y DU ar ein hetholwyr yma yng Nghymru—y rhai y mae’n honni ei fod yn eu cynrychioli yng Nghaerffili yw’r union rai sy’n aelodau, fel Hefin David—. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i gael y budd mwyaf i’n cymunedau, ond byddwn yn gofyn i’r Aelod ystyried ei gwestiynau a gofyn i’w gydweithwyr yn y DU efallai am ffrwd gyllido deg i Gymru.