Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 22 Mehefin 2016.
Rwy’n ymwybodol o bryderon yr Aelod. Mae fy swyddogion yn ystyried y materion sy’n codi o gymal 9 y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, ac maent mewn cysylltiad â San Steffan i sicrhau bod y diwygiadau a wneir er lles gorau plant Cymru sy’n aros i gael eu mabwysiadu a’u darpar rieni mabwysiadol. Rydym wedi ymrwymo, fel y mae’r Aelod yn sôn, i fabwysiadu fel opsiwn pwysig ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, plant nad yw eu teulu biolegol yn gallu gofalu amdanynt. Rydym yn cydnabod y rôl heriol, ond gwerthfawr, y mae rhieni sy’n mabwysiadu yn ei chwarae yn darparu cartrefi cariadus a pharhaol i’r plant hyn, ac mae’n rhywbeth y byddaf yn parhau i gadw llygad arno wrth i’r Bil fynd yn ei flaen.