Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 22 Mehefin 2016.
Yn gynharach eleni, mynegodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bryderon ynglŷn â diffyg cymorth ôl-fabwysiadu a’r effaith sylweddol a difrifol iawn y gallai hyn ei gael ar blant a theuluoedd o bosibl. Maent hefyd yn pryderu am y modd y mae cymorth ôl-fabwysiadu yn amrywio rhwng un rhanbarth a’r llall drwy Gymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn adolygiad o wasanaethau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad am y mater hwn?