<p>Gwasanaethau Mabwysiadu</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:01, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Ers sefydlu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2014, mae’r amser cyfartalog rhwng bod plentyn yn derbyn gofal ac yn cael ei leoli i’w fabwysiadu wedi parhau i ostwng. Mae ffigur perfformiad chwarter olaf 2015-16, sef 15.2 mis, yn is nag y mae wedi bod ers 2002. Mae gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud o ran darparu deunyddiau taith bywyd ers 31 Mawrth 2016, gyda 49 y cant o blant yn derbyn y deunyddiau erbyn eu hail adolygiad mabwysiadu a dim mwy na thri mis ar ôl eu hadolygiad cyntaf, o’i gymharu â 24 y cant y flwyddyn cynt. Mae llawer iawn o waith i’w wneud o hyd, ond byddaf yn ceisio parhau â grŵp cynghori er mwyn dylanwadu ar y Llywodraeth a gwneud y penderfyniadau gorau ar gyfer pobl ifanc yn y sefyllfa hon.