Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae £42,578,000 wedi’i ddyrannu ar gyfer y gwaith o gyflwyno’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod 2016-17, sy’n cynnwys £3 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer cyllido’r ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan anableddau.