<p>Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:03, 22 Mehefin 2016

Diolch. Mae tîm o amgylch y teulu yn un o bum prif elfen rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Mi ddaeth etholwraig i’m gweld i i rannu ei phryder hi ar ôl clywed bod y gwasanaeth tîm o amgylch y teulu yn Ynys Môn yn dod i ben o fis Mawrth 2017. Mi oedd hi’n canmol yn fawr y gofal a’r gefnogaeth yr oedd hi wedi eu derbyn gan y tîm yn lleol yn sgil problemau iechyd meddwl ei merch ac effaith hynny ar y teulu. Mae hi’n dweud yn berffaith glir na fyddai hi wedi gallu ymdopi heb y cymorth hwnnw. Pa fwriad sydd gan y Gweinidog i ailedrych ar ddyfodol tîm o amgylch y teulu a sicrhau ei barhad er mwyn fy etholwraig a llawer iawn tebyg iddi hi wedi mis Mawrth y flwyddyn nesaf?