Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â fy etholwr ysbrydoledig, Mia Thorne, sydd ond yn naw oed, ac sy’n llysgennad dros Caudwell Children Wales. Yn ystod ein trafodaeth, mynegodd Mia bryderon ynglŷn ag anghysondebau mewn rheoliadau adeiladu, er enghraifft o ran lled drysau fel bod defnyddwyr cadeiriau olwyn yn gallu llywio o gwmpas eu cartref eu hunain. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phobl anabl i sicrhau bod tai yn addas i’w anghenion?