<p>Anghenion Tai Pobl Anabl</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 3:06, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Dyna gwestiwn pwysig iawn ynglŷn â gwrando ar unigolion a’u profiadau a dysgu ganddynt, ac fel Gweinidog, rwy’n awyddus iawn i wella’r cyfle hwnnw. Mae gwrando ar farn pobl ag anableddau yn bwysig, ac rwy’n croesawu’r pwyntiau a godwch drwy Mia Thorne heddiw. Rydym hefyd yn awyddus i gydweithio’n agos â sefydliadau eraill i gyflwyno sylwadau pan fyddant angen i ni wneud hynny. Mae rhan M y rheoliadau adeiladu yn ei gwneud yn ofynnol i bob tŷ newydd gael llwybr hygyrch i’r brif fynedfa, cyfleusterau toiled y gellir eu defnyddio ar lefel y fynedfa, a lled drws a choridor addas i’w gwneud yn hygyrch ar gyfer ystod o anableddau. Rwy’n credu mai’r hyn sydd angen ei wneud yw parhau i ddysgu am brofiadau pobl o ddydd i ddydd, a bydd hynny’n dylanwadu ar bolisi’r Llywodraeth yn y tymor hir.