Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 22 Mehefin 2016.
Mynychais gyfarfod y cefais wahoddiad iddo yng ngogledd Corneli—diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fodd bynnag, roeddent yn pryderu bod taliadau gwasanaeth megis torri gwair a chodi sbwriel yn cael eu cynnwys yn eu rhent. Yn ddiweddar, roeddent wedi derbyn, gan Valleys to Coast, y taliadau gwasanaeth a gyflwynwyd ar gyfer codi sbwriel. Mae hyn wedi achosi llawer o ofid i’r etholwyr hyn, yn enwedig gan nad oedd eu cymdogion sydd efallai wedi prynu eu tŷ yn gorfod talu yn y ffordd hon. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, ni ddylid cyflwyno taliadau fel y rhain, yn enwedig gan eu bod yn cael eu codi ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas.