Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 22 Mehefin 2016.
Wel, fel y dywedais yn gynharach, nid oedd hyn ar sail cyflwyno taliadau newydd; dadansoddiad ydoedd o’r tâl a gâi ei godi arnynt eisoes. Felly, gallai eich etholwyr fod yn sicr ynglŷn â’r hyn roeddent yn talu amdano neu beidio. Mae’r broses o godi tâl arnynt bellach am dorri gwair—. Roedd tâl yn cael ei godi arnynt eisoes am dorri gwair ond mae’n debyg nad oeddent yn gwybod am y peth. Câi ei fwndelu fel un tâl ond erbyn hyn maent yn fwy ymwybodol. Os oes gan yr Aelod faterion penodol y mae’n dymuno eu dwyn i fy sylw, rwy’n fwy na hapus i fynd ar eu trywydd yn fy adran.