Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch, Lywydd. Hoffwn hefyd ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig iawn hon ar iechyd a gofal cymdeithasol. Mae fy ngwelliant yn ceisio ychwanegu at y ddadl heb dynnu dim oddi wrth y cynnig yn gyffredinol. Credaf yn gryf fod ysbytai bwthyn neu ysbytai cymunedol yn rhan o’r ateb i leihau’r baich ar ein hadrannau achosion brys, lleihau oedi wrth drosglwyddo gofal a lleihau’r pellteroedd y mae’n rhaid i bobl deithio er mwyn cael gofal. Rwy’n eich annog i gefnogi gwelliant UKIP.
Gan symud at welliannau’r Ceidwadwyr Cymreig, bydd UKIP yn cefnogi gwelliannau 2 a 3. Mae’n amlwg fod angen mynd i’r afael â mynediad at wasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru. Efallai y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi ein galwadau i ailsefydlu ysbytai bwthyn. Rydym hefyd yn cefnogi galwad y Ceidwadwyr Cymreig i adolygu rôl y comisiynydd pobl hŷn. Fel y mae eraill wedi dweud, mae Sarah Rochira yn gwneud gwaith anhygoel, ond mae angen cryfhau ac ehangu ei rôl a’i chylch gwaith. Mae UKIP hefyd yn cytuno â’r Ceidwadwyr Cymreig y dylai’r comisiynydd fod yn atebol i’r Cynulliad, nid i Lywodraeth Cymru.
O ran gwelliant cyntaf y Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn ymatal. Nid ydym yn argyhoeddedig y gall yr asesiadau aros yn y cartref gyflawni’r canlyniad dymunol a rannwn, sef hybu byw’n annibynnol a chynorthwyo pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd.
Lywydd, mae ein GIG yn dioddef oherwydd ei lwyddiant ei hun. Diolch i ddatblygiadau mewn gofal clinigol, rydym yn byw’n hwy. Rhagwelir y bydd nifer y bobl 65 oed a throsodd yn cynyddu 44 y cant erbyn 2039. Yn anffodus, fel y gŵyr llawer ohonom yn rhy dda, daw rhagor o broblemau iechyd wrth fynd yn hŷn. Mae’r ffaith hon ar ei phen ei hun yn amlygu’r angen am integreiddio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gormod o lawer o bobl hŷn yn dioddef oherwydd oedi wrth drosglwyddo gofal ac yn aros yn yr ysbyty am fwy o amser nag sydd angen.
Mae ffigurau ar gyfer Ebrill 2016 yn dangos cyfanswm o 495 achos o oedi wrth drosglwyddo gofal: roedd dros hanner y rheini’n achosion o oedi am dair wythnos neu fwy; bu dros 20 o bobl yn aros am 26 wythnos neu fwy. Dylai fod yn destun pryder mawr i bob un ohonom fod cynifer o bobl yn aros yn yr ysbyty am wythnosau’n hwy nag sydd angen. Mae’r oedi diangen yn costio miliynau o bunnoedd i’n GIG bob blwyddyn, ond mae’r gost i’r unigolyn yn anfesuradwy. Yn ôl Age Cymru, mae’r prif ffactorau sy’n gyfrifol am oedi wrth drosglwyddo gofal yn cynnwys diffyg cyfleusterau priodol ar gyfer ailalluogi ac ymadfer, oedi hir wrth drefnu gwasanaethau i gynorthwyo pobl yn eu cartrefi eu hunain, a’r rhwystrau sy’n bodoli rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Mae’n werth nodi bod y rhan fwyaf o arweinwyr y GIG wedi dweud bod diffyg yng ngwariant awdurdodau lleol wedi effeithio ar eu gwasanaethau. Rwy’n derbyn nad oes un ateb syml. Nid oes pilsen hud, ac yn sicr, nid oes ateb cywir i ddatrys y broblem gydag oedi wrth drosglwyddo gofal. Fodd bynnag, mae rhai atebion syml a fyddai’n gwneud llawer i geisio dileu oedi wrth drosglwyddo gofal. Bydd mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu. Mae llawer o ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr wedi lleihau oedi wrth drosglwyddo drwy weithio gydag awdurdodau lleol i gadw lleoliad mewn cartref gofal ar agor am 48 awr.
Yn draddodiadol, pan gaiff unigolyn ei dderbyn i’r ysbyty, daw cyfnod ei leoliad gofal i ben a rhaid sicrhau lleoliad newydd pan fydd y claf yn barod i gael ei ryddhau. Mae hyn yn cymryd amser. Mae’r newid syml hwn wedi lleihau oedi diangen yn sylweddol. Bydd rhagor o arian ar gyfer gofal cymdeithasol yn helpu hefyd. Fel y soniais yn gynharach, mae Cydffederasiwn y GIG yn credu bod diffyg yng ngwariant awdurdodau lleol wedi effeithio ar wasanaethau’r GIG. Mae ein timau gwasanaethau cymdeithasol dan ormod o bwysau, ac os ydym am gael unrhyw obaith o ateb heriau poblogaeth sy’n heneiddio, mae angen i ni fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol.
Yn olaf, bydd rhagor o ddefnydd ar ysbytai cymunedol yn helpu. Mae llawer o bobl hŷn angen aros yn yr ysbyty am gyfnodau estynedig ar gyfer cynnal arsylwadau ac yn sgil anghenion gofal cymdeithasol. Yn draddodiadol, arferem ddefnyddio ysbytai bwthyn ar gyfer ymadfer. Gadewch i ni ailsefydlu’r ysbytai bwthyn hyn er mwyn lleihau’r baich ar wardiau prysur ein hysbytai lleol.
Lywydd, rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant ac i gefnogi cynnig Plaid Cymru. Diolch yn fawr.