5. 5. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:29, 22 Mehefin 2016

Mae’n bleser gennyf i gymryd rhan yn y drafodaeth bwysig hon y prynhawn yma, ac rwy’n falch o weld y Ceidwadwyr yn cyfeirio at Blaid Cymru yn aml iawn yn eu haraith y prynhawn yma.

Fel rydym wedi clywed yn barod gan Rhun, mae yna nifer o heriau yn wynebu’r gwasanaeth iechyd, ac yn aml mae’r heriau hynny ar eu mwyaf dwys yn yr ardaloedd gwledig a’r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae’n hollol amlwg, ers tro, fod angen system gofal ac iechyd integredig yng Nghymru. Fedrwn ni ddim gwastraffu arian ac amser yn brwydro dros bwy sy’n talu am beth a phwy sydd am wneud beth tra bo’r person a’r teulu sydd angen y gwasanaeth yn cael eu hanghofio yng nghanol y broses fiwrocrataidd.

Fel teulu, fe gawsom ni brofiad uniongyrchol o’r dadlau sydd yn codi yn llawer rhy aml wrth i becyn gofal gael ei lunio ar gyfer unigolyn. Roeddem ni’n ceisio cael fy nhad adref o’r ysbyty ar ddiwedd ei oes. Cymrodd gryn egni i symud pethau ymlaen, i gael cytundeb ynglŷn â phwy oedd yn talu am ba elfen o’r gofal, a byddai llawer un wedi rhoi’r ffidil yn y to. Mi fyddai hynny wedi mynd yn groes i ddymuniad fy nhad, y claf. Byddai hefyd wedi golygu costau sylweddol uwch i’r gwasanaeth iechyd, gan fod cadw claf mewn gwely yn yr ysbyty llawer drytach, wrth gwrs, na gofalu amdano fo neu hi yn ei gartref neu chartref ei hun. Wedi i fy nhad gael ei ryddhau o’r ysbyty o’r diwedd, cafwyd gwasanaeth heb ei ail, efo’r gwasanaeth iechyd, y sector gwirfoddol, y gwasanaethau cymdeithasol, a ninnau fel teulu yn gweithio efo’n gilydd. Y broblem oedd cyn hynny, sef cyrraedd y pwynt lle roedd y cydweithio yna’n bosib. Felly, mae’n bryd i ni fynd ati o ddifrif i integreiddio’r gwasanaethau, a hynny mewn ffordd real, ar lawr daear, yn hytrach nag mewn byrddau partneriaeth a siopau siarad.

Ac mae yna esiamplau o ymarfer da ar gael—gwasanaethau wedi eu llunio efo’r person yn y canol. Mae yna un cynllun gwych ar waith yn Ysbyty Alltwen yng Ngwynedd, er enghraifft, a da o beth fyddai dysgu o’r profiad yn y fan honno ac mewn mannau eraill, ac, yn bwysicach, gweithredu ar yr hyn sydd yn gweithio. Wrth i’r Llywodraeth ailedrych ar sut fydd llywodraeth leol yn edrych i’r dyfodol, dyma ni gyfle gwych i fynd i’r afael â hyn o ddifrif. Dyma gyfle ardderchog i ailstrwythuro mewn modd sydd wir yn gwella’r ffordd yr ydym yn darparu’r gwasanaethau i’n pobl, a hynny ddylai fod wrth wraidd unrhyw ad-drefnu. Rydym ni i gyd yn byw yn hirach—newyddion ardderchog, ond, yn aml, rydym ni’n byw yn hirach tra’n wynebu cyflyrau cronig sydd angen eu rheoli tu allan i’r ysbyty, ac mae hyn, fel mae Rhun wedi sôn amdano eisoes, yn golygu mwy o wasanaethau yn y sector gofal sylfaenol, yn cynnwys mwy o feddygon teulu, mwy o nyrsys cymuned, a gwasanaethau cymdeithasol wedi’u cydlynu.

Mi wnes i sôn ar y cychwyn am yr heriau sy’n wynebu’r ardaloedd gwledig, ac mae Rhun wedi sôn i ni beidio defnyddio’r gair ‘argyfwng’ yn rhy ysgafn. Ond rwyf am ei ddefnyddio fo am yr amgylchiadau sydd yn rhai o’r ardaloedd. Mae gwir argyfwng mewn mannau oherwydd diffyg meddygon teulu. Yn Nwyfor, er enghraifft, mae bron i hanner y meddygon ar fin ymddeol. Mae Plaid Cymru wedi amlinellu nifer o bolisïau i ddenu a chadw doctoriaid. Mae angen cynllun tymor hir hefyd ar gyfer hyfforddi doctoriaid, yn cynnwys meddygon teulu, yng Nghymru. Mae angen datrysiad cenedlaethol i ehangu’r ddarpariaeth yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac i greu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd fel rhan o gynllun Cymru-gyfan.

Mae doctoriaid yn aros i weithio lle mae nhw’n cael eu hyfforddi—mae llawer o dystiolaeth i gefnogi hyn. Mae’r syniad o ysgol feddygol i’r Gogledd yn denu cefnogaeth yn gyflym. Rydw i’n credu bod modd creu model o ysgol feddygol unigryw sydd â ffocws ar feddygaeth wledig. Mae modd i Gymru fod ar flaen y gad efo hyn, yn arloesi efo’r defnydd o’r dechnoleg newydd, er enghraifft, ac yn creu modelau newydd o ddarpariaeth meddygol wledig. Diolch am gael cymryd rhan, a gobeithio gwnaiff pawb gefnogi’r cynnig.