5. 5. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:54, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Mae polisi Llywodraeth Cymru ar wasanaethau iechyd cymunedol a thoriadau yn y gyllideb iechyd, a ddisgrifiwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru fel rhai ‘digynsail yn hanes y DU’, wedi rhoi mwy o bwysau ar ein hysbytai cyffredinol. Roedd maniffesto’r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer 2016 yn cynnwys argymhellion i hybu mwy o integreiddio rhwng iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chymunedau. Dywedasom hefyd y byddem yn creu cronfa datblygu ysbytai cymuned ac yn ailsefydlu unedau mân anafiadau i unioni’r difrod a achoswyd gan y Blaid Lafur yn cael gwared ar welyau cymunedol a chau unedau mân anafiadau. Ym mis Mawrth 2010, dywedodd Gweinidog Iechyd y Blaid Lafur ar y pryd, ‘Ni wn am ddim bygythiadau i ysbytai cymunedol ar draws Cymru.’ Mewn gwirionedd, roeddwn wedi sefydlu CHANT Cymru—Ysbytai Cymuned yn Gweithredu’n Genedlaethol Gyda’i Gilydd—a ymgyrchodd yn llwyddiannus i atal cynlluniau Llafur i gau ysbytai cymuned yn 2007. Fodd bynnag, pan ddychwelodd Llafur i rym un blaid yng Nghaerdydd yn 2011, aethant ati eto i fwrw ymlaen â’u rhaglen i gau ysbytai a gwelyau cymunedol.

Ysgrifennodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru at y Gweinidog Iechyd ar y pryd yn mynegi pryderon ynghylch safon y wybodaeth a ddarparwyd gan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, ac a ddefnyddiwyd ganddynt i lywio eu penderfyniadau i gau ysbytai cymuned yn y Fflint, Llangollen, Blaenau Ffestiniog a Phrestatyn. Collwyd dwsinau o welyau cymunedol, er bod lefelau defnydd gwelyau yn 95 y cant ac yn uwch. Dywedodd y meddyg teulu a sefydlodd y cynllun peilot gofal estynedig yn y cartref gyda’r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru y byddai hyn yn llorio gwasanaeth sydd eisoes yn aml dan bwysau ar hyn o bryd, ac na fydd rhan ganolog o’r ad-drefnu arfaethedig ym maes gwasanaethau iechyd—darparu mwy o ofal yng nghartrefi pobl—yn llenwi’r bwlch o ganlyniad i gau ysbytai cymuned.

Anwybyddodd y Llywodraeth Lafur refferendwm y Fflint, lle y pleidleisiodd 99.3 y cant o blaid adfer gwelyau i gleifion mewnol yn y Fflint, ac yna anwybyddodd refferendwm Blaenau Ffestiniog, lle y pleidleisiodd mwyafrif llethol o blaid adfer gwelyau yno. Pan ymwelais ag Ysbyty Treffynnon, dywedodd staff wrthyf y byddai buddsoddiad ychwanegol yn ein hysbytai cymuned lleol, fel Treffynnon, a gwelyau GIG cymunedol yn y Fflint, yn tynnu’r pwysau oddi ar ein hysbytai cyffredinol, yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng adrannau damweiniau ac achosion brys ac yn galluogi’r bwrdd iechyd i ddefnyddio’i adnoddau yn fwy effeithlon.

Fel y dywedodd pennaeth y GIG yn Lloegr heb fod mor bell yn ôl, dylai ysbytai cymuned llai o faint chwarae rhan fwy, yn enwedig yng ngofal cleifion hŷn. Mewn briff gan Gymdeithas Feddygol Prydain Cymru yn y Cynulliad ym mis Mehefin 2014, rhybuddiodd cadeirydd Pwyllgor Meddygol Lleol Gogledd Cymru ei bod yn argyfwng ar bractisau cyffredinol yng ngogledd Cymru, fod nifer o feddygfeydd wedi methu â llenwi swyddi gwag, a bod llawer o feddygon teulu o ddifrif yn ystyried ymddeol. Yn gynnar eleni, ysgrifennodd meddygon teulu yng ngogledd Cymru at y Prif Weinidog yn ei gyhuddo o fod wedi colli gafael ar realiti’r heriau sy’n eu hwynebu.

Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn nodi bod ymarfer meddygol cyffredinol yng Nghymru yn darparu 90 y cant o ymgynghoriadau’r GIG, fel y clywsom, a 7.8 y cant yn unig o’r gyllideb. Maent yn dweud bod tanfuddsoddi hirdymor wedi golygu bod cyllid i ymarfer meddygol cyffredinol wedi bod yn gostwng o’i gymharu â’r GIG yng Nghymru yn gyffredinol, ac eto rydym yn wynebu heriau sylweddol poblogaeth sy’n heneiddio ac yn tyfu. Fel y dywedant, mae ymgynghoriadau yn mynd yn hwy ac yn fwy cymhleth wrth i ni ddelio â nifer cynyddol o gleifion gyda mwy nag un cyflwr cronig. Fel y dywedasant yng nghyfarfod y Cynulliad ddoe, mae bron i bedwar o bob 10 claf yng Nghymru yn ei chael yn anodd gwneud apwyntiad cyfleus i weld meddyg teulu—cynnydd o 4 y cant mewn dwy flynedd; mae 84 y cant o feddygon teulu yng Nghymru yn poeni eu bod yn mynd i fethu â sylwi ar broblem ddifrifol gyda chlaf oherwydd pwysau; ac mae dros 52 y cant o bractisau meddygon teulu yn wynebu problemau recriwtio sylweddol, gyda Chymru angen cyflogi mwy na 400 o feddygon teulu ychwanegol.

O ystyried y prinder meddygon teulu, rydym wedi clywed bod angen modelau megis y practis amlddisgyblaethol a gyflwynwyd ym Mhrestatyn. Fodd bynnag, clywsom hefyd fod hwn yn seiliedig ar fodel tramor, a oedd â chymhareb uwch o feddygon teulu i ddisgyblaethau eraill; y byddwn yn colli’r ymagwedd holistaidd a’r parhad a ddarperir gan feddygon teulu, gan niweidio lles cleifion; ac na fydd y bwrdd iechyd yn ymyrryd hyd nes y ceir argyfwng neu drychineb. Clywsom y bydd 100 y cant o feddygon iau ym Manceinion yn treulio amser mewn practisau cyffredinol, o gymharu â 13 y cant yn unig yng Nghymru, ac y dylai pob meddyg iau yng Nghymru gael profiad o ymarfer meddygol cyffredinol. Clywsom fod angen i ogledd Cymru ganolbwyntio, unwaith eto, ar recriwtio meddygon teulu o brifysgolion Manceinion a Lerpwl; bod angen cymorth ar bractisau sy’n ei chael hi’n anodd a meddygon teulu unigol sy’n dioddef o orweithio; a bod gwelyau GIG cymunedol yn ychwanegu at y nifer o bethau y gall meddygon teulu eu gwneud, gan gynorthwyo’r sectorau sylfaenol ac eilaidd fel ei gilydd.

Felly, gadewch i ni obeithio y bydd y Llywodraeth Lafur hon, wedi’i had-drefnu, yn dechrau gwrando o’r diwedd, ac yn darparu’r atebion y gŵyr y gweithwyr proffesiynol sydd eu hangen arnom.