5. 5. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:49, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Rwyf ychydig yn betrusgar wrth godi i siarad ynghylch integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, o ystyried y cyfraniad enfawr a wnaed yn y maes polisi penodol hwn yng Nghymru gan fy rhagflaenydd, Gwenda Thomas, yr Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd, ac yn enwedig mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, manteisiaf ar y cyfle hwn i dalu teyrnged iddi am ei hetifeddiaeth wleidyddol yn y lle hwn, a fydd yn sicr o fod o fudd i gannoedd o filoedd o bobl yng Nghymru.

Fel nifer o’r Aelodau, rwy’n siŵr, roedd mynediad at feddyg teulu yn bwnc a gododd dro ar ôl tro ar garreg y drws yn ystod yr ymgyrch etholiadol rydym newydd fod yn ei hymladd, ac mae’n dal i godi. Un mater y credaf ei bod yn bwysig i ni ei gydnabod, fel y gwnaeth Dai Lloyd eisoes, yw bod y niferoedd cynyddol o bobl hŷn sydd angen i’n GIG a’n gwasanaethau gofal ddarparu ar eu cyfer yn ganlyniad darpariaeth gofal iechyd gwell dros y blynyddoedd. Ac yn hynny o beth, mae’n ganlyniad i lwyddiant. Rwyf bob amser yn ymwybodol o’r iaith a ddefnyddiwn wrth siarad am anghenion cleifion hŷn a disgrifio’r heriau sy’n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym oll yn gytûn fod y ffaith ein bod yn gallu darparu ar gyfer anghenion cenhedlaeth o bobl hŷn sy’n byw’n hwy yn amlwg yn beth da, ac yn rhywbeth i’w ddathlu.

Ond mae’r heriau gweithredol wrth fynd i’r afael â’r angen hwn yn fater arall, ac mae angen mwy o feddygon teulu er mwyn diwallu anghenion ein poblogaeth, ac mae hon yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth, fel y dylai fod. Ond mewn gwirionedd, dylid anelu’n bennaf at sicrhau gwasanaeth gofal sylfaenol sy’n darparu’r math cywir o ofal, boed wedi’i ddarparu gan feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall sydd efallai wedi’i gyfarparu’n well i wneud hynny. Mae datblygu practisau amlddisgyblaethol gyda fferyllwyr, nyrsys practis a gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio ochr yn ochr â meddygon teulu yn cynnig potensial i ddarparu’r math o ofal y mae’r claf ei angen, gan alluogi’r meddyg teulu i ganolbwyntio ar gleifion sydd angen gweld meddyg teulu oherwydd anghenion clinigol penodol. Cyfeiriaf at y model arloesi rhagorol ym mhractis Aman Tawe yn fy etholaeth, sydd hefyd yn ymestyn i etholaeth Adam Price yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ymddengys i mi fod ethos ymarfer cryf a pharch cydradd rhwng ymarferwyr yn hanfodol i lwyddiant y model hwnnw, ac nid gofal sy’n diwallu anghenion y boblogaeth yn well yw’r unig wobr, ond efallai fod hynny hefyd yn ei gwneud yn haws denu meddygon teulu i’r practisau hynny. Pwysleisiaf nad yw hyn yn gwadu’r ffaith fod angen i ni recriwtio rhagor o feddygon teulu. Mae’n amlwg fod angen i ni wneud hynny, ac mae’n rhaid i ni barhau i helpu’r practisau sy’n ei chael yn anodd, am ba reswm bynnag, i lenwi’r swyddi hynny.

Un o’r materion allweddol, ymddengys i mi, yw mai un rhan o’r hafaliad yw ad-drefnu’r practisau hynny. Ond y rhan hanfodol arall yw rôl y claf, a disgwyliadau’r claf yn arbennig. Gall fod yn ddealladwy i glaf sydd wedi arfer gweld meddyg teulu dros y blynyddoedd deimlo nad yw gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol arall gystal neu’n well yn wir na gweld meddyg teulu. Bydd gan lawer ohonom enghreifftiau o bryderon a leisiwyd ynglŷn â threfniadau brysbennu yn arbennig. Felly, ymddengys i mi fod yn rhaid i ni ganfod ffyrdd o ymgysylltu’n ddilys ac yn dreiddgar â chymunedau lleol fel partneriaid yn y broses o wella’r ddarpariaeth iechyd a gofal. Ceir perthynas o ymddiriedaeth ganolog rhwng y meddyg a chlaf nad yw’n hawdd ei hail-greu. Ond yn yr un modd, ymddengys i mi fod trefniadau amlddisgyblaethol llwyddiannus yn dibynnu ar lefel dda o lythrennedd iechyd yn y boblogaeth gyffredinol. Efallai nad yw’r ddealltwriaeth o risg a’r elfen o hunanymwybyddiaeth gorfforol a meddyliol gystal ag y mae angen iddynt fod er mwyn i rai o’r practisau hyn weithio yn y ffordd orau. Felly, mae’r gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill yn ei wneud i geisio gwella llythrennedd iechyd yn allweddol.

Dymunaf ddweud rhywbeth am y berthynas rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae’r gwaith a wnaed gan grŵp cynghori’r Llywodraeth ar fysiau yn cydnabod pwysigrwydd alinio llwybrau â sbardunau teithiau allweddol fel canolfannau iechyd. Dylem hefyd ystyried y potensial i’r canolfannau gofal sylfaenol eu hunain bartneru â darparwyr cludiant cymunedol gwirfoddol rheoledig er mwyn ei gwneud yn haws i gleifion allu mynychu apwyntiadau. Yn wir, dylem edrych hefyd ar sut y gellid cynorthwyo practisau gofal sylfaenol yn gyffredinol i weithio’n agosach gyda’r sector gwirfoddol fel partneriaid cyfartal, fel y soniodd Sian Gwenllian yn ei chyfraniad. Mae’n bwysig canolbwyntio ar hyn ar lefel gymunedol. Bydd llwyddo yn hyn o beth yn cefnogi integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ar lefel gofal sylfaenol yn ogystal ag ar lefel eilaidd, ac mae’n rhaid i’r broses o gynllunio gofal ganolbwyntio ar anghenion holistaidd y claf, gan ystyried rôl gwasanaethau cymdeithasol yn y gymuned, ac yn wir, rôl ac anghenion gofalwyr eu hunain. Fel y crybwyllodd llawer o siaradwyr, ceir enghreifftiau ardderchog o hyn ledled Cymru, ac mae’r gronfa gofal canolraddol yn bodoli er mwyn cefnogi’r ffordd honno o weithio. Ond yn hyn o beth, fel yn y meysydd eraill y soniais amdanynt, mae’n rhaid i ni sicrhau bod arferion gorau yn cael eu nodi a’u rhoi ar waith ym mhopeth a wnawn.