Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 22 Mehefin 2016.
Diolch. Hoffwn, ar ran Plaid Cymru, gyflwyno ein gwelliannau ni, felly, i’r ddadl yma ar ddiwygio awdurdodau lleol yng Nghymru. Yn amlwg, mae yna gryn dipyn i’w ddweud am y pwnc yma. Ond, heddiw, rwy’n mynd i ganolbwyntio ar ddwy agwedd benodol a gafodd eu cynnwys fel rhan o bolisi Plaid Cymru yn ystod etholiad y Cynulliad ym mis Mai. Hynny yw, yn gyntaf, yr angen i Lywodraeth Cymru i weithredu i gynnwys pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn y dyfodol. Ac, yn ail, yr angen i unrhyw ddiwygiad yn y dyfodol gynnwys awdurdodau rhanbarthol er mwyn rhoi cyfeiriad strategol i awdurdodau lleol ac i rannu arferion gorau ar draws awdurdodau gwahanol.
Fel unrhyw genedl, mae Cymru angen arweinyddiaeth ranbarthol i roi cyfeiriad strategol sy’n adlewyrchu set o flaenoriaethau ledled Cymru, ynghyd â llywodraeth leol gref i sicrhau atebolrwydd lleol a chydlynu ar lefel y gymdogaeth. Ein cynnig ni yw esblygu graddol gan ddefnyddio strwythurau presennol i greu arweinyddiaeth newydd ar lefel ranbarthol a chymunedol. Rydym hefyd, fel y gwnaethom ni sôn yn y ddadl roeddem ni’n ei chynnal yn y Siambr yn gynharach, eisiau gweld integreiddio llawer iawn mwy pwrpasol a synhwyrol rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un fantais amlwg o wneud hynny ydy creu atebolrwydd yn y maes iechyd yn ogystal â gwella’r ddarpariaeth i’n pobl ni.
Mae Plaid Cymru o’r farn bod angen creu awdurdodau rhanbarthol cyfunol, wedi’u cyfansoddi o gynghorau lleol sy’n bodoli yn barod. Mae angen anghofio am y map ac ymgynghori ar sut y byddai’r weledigaeth ranbarthol newydd yma’n edrych a beth fyddai’r union ddyletswyddau ar y lefel honno.
Mae’n gwelliannau ni i’r ddadl yma heddiw yn canolbwyntio ar yr angen i gyflwyno system etholiadol newydd, sef pleidlais sengl drosglwyddadwy, STV, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg i bob safbwynt gwleidyddol.
Mi gyhoeddwyd adroddiad Sunderland yn 2002. Ydy, mae hynny gryn amser yn ôl. Ond, mi oedd yn adroddiad trwyadl iawn ac mi ddaethpwyd i’r casgliad mai ffurf y bleidlais sengl drosglwyddadwy oedd fwyaf addas i ddiwallu gofynion amrywiol pobl leol o ran system etholiadol leol. Ac, roedd hynny ar ôl i’r comisiwn brofi saith o systemau etholiadol eraill.
Yn fy marn i, cyflwyno STV i etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban yw un o’r datblygiadau mwyaf cadarnhaol ers oes datganoli. Yn yr Alban, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer iawn mwy bywiog a mwy diddorol. Mae llawer iawn mwy o bobl yn cystadlu ar gyfer y seddi yno ac mae llywodraeth leol ei hun, yn sgil hynny, yn plethu ei hun yn agosach at ddymuniadau y boblogaeth.
Mae’r Llywodraeth yma wedi cael cyfle i weithredu ar argymhellion adroddiad Sunderland yn barod yn y gorffennol. Ac, fel cenedl, os ydym wir yn credu bod pob dinesydd yn gyfartal, yna dylem ni hefyd gredu, ac felly sicrhau, fod pob pleidlais yn gyfartal. Hyd y gwelaf i, nid oes rheswm da dros beidio â chyflwyno STV ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Felly, rydym yn gofyn ichi gefnogi’r gwelliannau. Diolch.