Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 22 Mehefin 2016.
Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw. Mae gwasanaethau cyhoeddus, a darparu gwasanaethau cyhoeddus, yn elfen hanfodol o gymorth i lawer o bobl ar hyd a lled Cymru, ac mae llywodraeth leol yn amlwg yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o ddarparu’r gwasanaethau cyhoeddus hynny. Roeddwn o ddifrif yn fy sylwadau i’r Prif Weinidog yn ystod wythnosau cyntaf y Llywodraeth hon, pan ddywedais wrtho ein bod yn dymuno’n dda i’r Llywodraeth yn ei chenhadaeth—ac i Ysgrifenyddion y Cabinet yn eu cenhadaeth—i gyflawni’r dyheadau yn eu maniffesto, oherwydd, os yw Llywodraeth yn methu, yna bydd y gwasanaethau y mae pob Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfrifol am eu darparu wedi methu i’r bobl sydd angen y gwasanaethau hynny i’w cynnal yn eu bywydau bob dydd. Ein gwaith ni, fel gwrthblaid, yn amlwg, yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif, ac i wneud yn siŵr ein bod yn cynnig dewis arall yn ogystal, gan ei bod yn hawdd cecru o’r ymyl, ond mae angen i chi ddweud beth yn union y byddwch yn ei wneud os ydych o ddifrif am fod yn Llywodraeth un diwrnod.
O’r meinciau hyn, dros wythnosau a misoedd cynnar y Cynulliad hwn, byddwn yn sicr yn ymgysylltu ac yn ceisio ymwneud yn gadarnhaol ag Ysgrifennydd newydd y Cabinet ar yr agenda ar gyfer llywodraeth leol, oherwydd bod cymaint o ynni ac amser wedi’i dreulio yn y Cynulliad hwn yn ystod y tymor diwethaf yn ymdrin â mapiau a llinellau ar fapiau—fel y soniodd y siaradwr arweiniol, Janet Finch-Saunders—nad oeddent mewn gwirionedd yn golygu fawr iawn i’r cymunedau a oedd yn mynd i gael gwasanaeth neu gyfleuster wedi’i ddiddymu, ac yn y pen draw nid oedd fawr o gefnogaeth iddo os o gwbl. Mae’n dipyn o beth pan fo arweinydd y Ceidwadwyr yn mynd i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn cael mwy o gymeradwyaeth nag a gafodd y Gweinidog Llafur yn Abertawe—gan gofio bod 16 o’r 22 o arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru, rwy’n meddwl, yn arweinwyr Llafur. Ond roedd hynny ar anterth y sôn am fap y Gweinidog blaenorol ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol wrth gwrs. Gobeithio y bydd y Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n ddrwg gennyf—yn glynu at y sylwadau a wnaeth yn gyhoeddus hyd yn hyn, yn yr ystyr ei fod am gael y drafodaeth honno, a’i fod eisiau cydweithio â’r rhai ar y rheng flaen mewn llywodraeth leol, yn hytrach na mynd i’r cyfarfodydd hynny yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf a dweud wrthynt beth fydd yn digwydd, mewn gwirionedd, oherwydd rwyf eto i ddod o hyd i rywun sydd o ddifrif yn awyddus i ddinistrio llywodraeth leol.
Ceir llawer o syniadau ynglŷn â pha fodel y dylem edrych arno—y model cyfun y soniodd Plaid Cymru amdano, y model sirol y mae eraill yn cyfeirio ato ac yn y pen draw, model 1974 roedd y Llywodraeth flaenorol yn amlwg yn ei gefnogi. Ond gyda’r pwysau o ran costau ar ddarparu gwasanaethau, a’r galw cynyddol am y gwasanaethau sy’n rhaid i lywodraeth leol eu darparu, yr hyn sy’n hollol amlwg yw nad yw’r status quo yn opsiwn. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud, fel y ddeddfwrfa sylfaenol yma yng Nghymru gyda chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, yw dod o hyd i ateb er mwyn sicrhau bod map cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yn cael ei gyflwyno yma yng Nghymru.
Bob oddeutu 20 mlynedd, mae’n ffaith fod Llywodraethau blaenorol—o bob lliw a llun—wedi ailgynllunio llywodraeth leol yng Nghymru. Ni all hynny fod yn fodel da ar gyfer llywodraethu, ni all fod yn fodel da ar gyfer cyflawni, ac yn y pen draw, ni all fod yn fodel da ar gyfer y rhai sy’n gweithio o fewn y gwasanaeth, a’r rhai sy’n dibynnu’n sylfaenol ar y gwasanaethau hynny i ddarparu eu cymorth o ddydd i ddydd. Rwy’n meddwl mai’r hyn sy’n wirioneddol bwysig heddiw yn y ddadl hon yw bod y Gweinidog yn achub ar y cyfle i ymateb yn yr wythnosau cynnar hyn ynglŷn â sut y bydd yn symud y trafodaethau yn eu blaen. Yn bwysig, gyda’r etholiadau fis Mai nesaf, a yw’n fwriad gan y Llywodraeth, os oedd consensws yn mynd i fod ar ad-drefnu, i sicrhau bod y mandadau y bydd gwleidyddion yn eu ceisio gan yr etholwyr yn fandadau llawn—h.y. a fyddant yn para am y tymor llawn o bum mlynedd ar gyfer llywodraeth leol? Oherwydd byddant yn cyflwyno maniffestos i’r etholwyr mewn ychydig dros 9 neu 10 mis, maniffestos y bydd yr etholwyr yn pleidleisio ar eu sail. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog—Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n ddrwg gennyf—yn rhoi’r eglurder hwnnw ynghylch y sicrwydd y bydd ei angen ar ymgeiswyr a deiliaid swyddi pan fyddant yn cael y dadleuon hynny ac yn cael y trafodaethau ynglŷn â sut olwg fydd ar lywodraeth leol dros y pum mlynedd nesaf, ac yn wir, fel y dywedais yn gynharach, ynglŷn â’r trafodaethau y mae’n bwriadu eu harwain gydag awdurdodau lleol, a rhoi’r ymrwymiad dilys mai trafodaeth fydd hi yn hytrach na darlith, fel y cafwyd gan ei ragflaenydd, yn anffodus, ar ddechrau’r trafodaethau hyn yn y pedwerydd Cynulliad.
Hefyd, yn bwysig, rwyf eisiau crybwyll y nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Yn anffodus, roedd i lawr 4 neu 5 y cant yn 2012, ac etholwyd nifer i seddau yn ddiwrthwynebiad, mewn gwirionedd, fel y soniodd Janet Finch-Saunders. Mae’n hanfodol fod yna ymwybyddiaeth ynglŷn â’r rôl allweddol y gall cynghorwyr lleol ac ymgeiswyr, yn wir, ei chwarae yn y cyfnod yn arwain at yr etholiad ac ar ôl yr etholiad, yn cefnogi pentrefi, trefi a chymunedau mewn unrhyw ran o Gymru. Felly, edrychaf ymlaen at ymateb y Gweinidog ac rwy’n gobeithio y bydd yn defnyddio’r ddadl hon fel cyfle i roi cnawd ar esgyrn rhai o’r syniadau a allai fod ganddo.