Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 22 Mehefin 2016.
Rwy’n falch fod y Ceidwadwyr wedi cydnabod pwysigrwydd llywodraeth leol o’r diwedd. I’r rhai sydd wedi bod yma dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi’u clywed yn ceisio mynd ag arian oddi wrth lywodraeth leol a’i roi i iechyd, sy’n cyfateb i brynu car, peidio â’i gynnal a’i gadw, ond gwario arian ar atgyweiriadau. Mae gwariant ar gyfleusterau chwaraeon, iechyd yr amgylchedd a gofal henoed yn helpu i gadw pobl rhag bod angen gofal mewn ysbyty.
Mae llywodraeth leol yn darparu amrywiaeth enfawr ac ystod eang o wasanaethau. Ceir llyfryn o’r enw A i Y o wasanaethau’r amgylchedd—ar gyfer y rhai nad ydynt wedi’i weld, nid yw’n llyfryn tenau, ac un maes yn unig o lywodraeth leol yw hwnnw. Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn effeithio ar bawb a phob un bob dydd: mae ffyrdd, palmentydd, casglu sbwriel, cael gwared ar sbwriel, addysg a gwasanaethau cymdeithasol yn effeithio’n ddyddiol ar fywydau’r bobl sy’n byw mewn ardal. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru dan fwy o bwysau ariannol nag unrhyw faes gwasanaeth arall yn y sector cyhoeddus, ac rwy’n cynnwys y gwasanaeth iechyd yn hynny. Gwyddom fod y boblogaeth yn heneiddio a bod pobl yn byw yn hwy, yn aml gydag anghenion gofal sylweddol sy’n rhaid eu darparu y tu allan i ysbytai. Y rheswm pam y mae llywodraeth leol yn torri’n ôl ar wasanaethau eraill yw oherwydd bod angen gwasanaethau cymdeithasol mor fawr ac mae’n rhaid ei ddiwallu.
A gaf fi ddyfynnu Canolfan Ymchwil i Lywodraeth Leol a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd? Cynhaliodd y dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o effaith maint ar berfformiad awdurdodau lleol. Datblygodd y tîm fodel arloesol sy’n defnyddio sgoriau arolygon, dangosyddion perfformiad cenedlaethol, hyder y cyhoedd a mynegai gwerth am arian. Dangosodd y canlyniadau nad oes maint sy’n ddelfrydol ar gyfer awdurdodau lleol. Mae gan gynghorau mwy o faint lai o orbenion gweinyddol canolog, ond roedd effeithiau maint yn amrywio rhwng gwasanaethau. Gwelodd ymchwil dilynol y gallai cynghorau mwy o faint a gynhyrchwyd drwy ad-drefnu darfu ar berfformiadau. Gwyddom hefyd fod yr awdurdod lleol mwyaf yn Ewrop—Birmingham—wedi cael problemau difrifol gyda’i adran gwasanaethau cymdeithasol. Felly, nid yw mawr bob amser yn well.
Cynhaliwyd profion ganddynt ar effaith maint y boblogaeth a gosodasant reolaethau ar gyfer gwahaniaethau yn y cyd-destun economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys amddifadedd ac amrywiaeth anghenion gwasanaethau. Dangosai canlyniad y dadansoddiad hwn nad oedd maint y boblogaeth yn effeithio fawr ddim ar sgoriau Asesu Perfformiad Corfforaethol, ond roedd yn effeithio ar oddeutu hanner y mesurau arolygu gwasanaethau a’r rhan fwyaf o fesurau boddhad defnyddwyr. Mae hefyd yn effeithio ar fesurau gwerth am arian. Ond mae’r berthynas rhwng maint a pherfformiad yn gymhleth. Mewn rhai achosion, roedd awdurdodau mwy o faint yn perfformio’n well, ac mewn eraill, roedd cynghorau llai’n perfformio’n well, ac mewn eraill, awdurdodau canolig eu maint a gâi’r canlyniadau gorau. Yn wir, os edrychwch ar ddangosyddion perfformiad Cymru ar draws awdurdodau lleol, awdurdodau o faint canolig sy’n gwneud orau mewn gwirionedd ac sy’n cael fwyaf o sgoriau gwyrdd.
Gwyddom nad yw maint yn gymesur â pherfformiad. Nid yw pawb yn edrych ac yn dweud, ‘Pe gallai pob cyngor fod fel Caerdydd a Rhondda Cynon Taf, yna byddai gennym set wych o awdurdodau lleol yng Nghymru’. Mae awdurdodau lleol wedi colli rheolaeth ar nifer fawr o’r meysydd gwasanaeth a oedd ganddynt pan gefais fy ethol yn gynghorydd gyntaf yn 1989. Maent wedi colli sefydliadau addysg uwch a’r colegau polytechnig, colegau addysg bellach, rheolaeth uniongyrchol ar ysgolion, mwyafrif ar bwyllgorau heddlu, Maes Awyr Caerdydd, ac mewn llawer o ardaloedd cyngor, tai. A oes unrhyw un mewn gwirionedd yn credu bod y newidiadau hyn wedi bod er gwell o ran darparu gwasanaethau?
Ar y nifer sy’n pleidleisio, mae hon yn broblem yn holl etholiadau Cymru, gan gynnwys, yn anffodus, etholiad y Cynulliad. Mae’n anodd cymharu rhwng etholiadau cyngor ac etholiadau’r Cynulliad, oherwydd yn yr ardaloedd sydd â’r nifer uchaf o bobl yn pleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad yn draddodiadol, mae llawer yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad i seddau’r cyngor. Gwyddom fod y nifer sy’n pleidleisio i etholiadau’r cyngor yn sylweddol uwch na’r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau Ewropeaidd, a phan gânt eu cynnal ar wahân, yn etholiadau comisiynwyr yr heddlu. Un ateb amlwg i gynyddu’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol fyddai rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol a llai o gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r bleidlais sengl drosglwyddadwy, a elwir hefyd yn ‘Dyfalwch faint o seddau rydych yn mynd i’w hennill?’, gan greu wardiau mawr mewn ardaloedd gwledig, a symud llywodraeth leol i ffwrdd oddi wrth bleidleiswyr—ni allaf feddwl am ffordd well o leihau’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol na chyflwyno’r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Nodaf nad ydych yn gofyn am gael refferendwm arno, oherwydd credaf fod pobl yn gwybod beth fyddai’r canlyniad. Cawsom refferendwm ar newid y system bleidleisio, ac roedd canlyniad hwnnw’n bendant yn erbyn newid. Felly, yn amlwg nid oes arnom eisiau un arall—gadewch i ni ei orfodi oddi fry.
Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y canlynol: rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol, rhywbeth y mae llywodraeth leol wedi gofyn amdano ers cyn cof, darparu llai o reolaeth ganolog dros wasanaethau—gadewch i benderfyniadau gael eu gwneud yn lleol—hyrwyddo cydweithio ym maes addysg a gwasanaethau cymdeithasol, ond ar yr un ôl troed. Mae pob Gweinidog sy’n cymryd portffolio gwahanol yn creu eu hôl-troed bach eu hunain ar gyfer pob gwasanaeth; mae angen i ni gael gwasanaethau’n cwmpasu’r un ardal. Ceisiwch gael awdurdodau lleol i gydweithio ar gynllunio rhanbarthol ar gyfer tai a datblygu economaidd. Mae gennym gynllun datblygu ar gyfer pob awdurdod lleol, ac rydym i gyd yn gwybod, onid ydym, y bydd y newidiadau sy’n cael eu gwneud yn Abertawe yn effeithio ar Gastell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin ac fel arall. Felly mae angen i ni gael rhyw fath o bolisi rhanbarthol er mwyn i ni i gyd wybod lle rydym. Dylem geisio uchafu nifer y gwasanaethau o dan reolaeth uniongyrchol llywodraeth leol. Rwy’n credu’n gryf mewn llywodraeth leol ac rwy’n meddwl ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn gadael i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau ar ran eu pobl leol ac yna, os nad yw’r bobl yn eu hoffi, gallant gael gwared arnynt.