1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2016.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffoaduriaid o Syria sy'n cael eu hadsefydlu yng Nghymru? OAQ(5)0085(FM)
Cafodd saith deg wyth o ffoaduriaid o Syria eu hailsefydlu yng Nghymru ddiwedd mis Mai a byddem yn disgwyl i fwy gyrraedd Cymru yn ystod y misoedd nesaf.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae wedi bod yn annymunol iawn clywed am y sylwadau hiliol sydd wedi cynyddu ers canlyniad refferendwm yr UE ac rydym ni’n gobeithio na fydd hynny’n effeithio ar y croeso gwirioneddol dda a roddwyd yng Nghymru i’r ffoaduriaid o Syria. Ond beth arall y mae’r Prif Weinidog yn ei gredu y gellir ei wneud i helpu plant sy'n ffoaduriaid yn benodol, a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches, fel eu bod yn cael cymaint o gymorth â phosibl gan awdurdodau lleol a'r cymunedau lle y cânt eu lleoli?
Gallaf hysbysu'r Aelod y sefydlwyd y tasglu gweinidogol ar gyfer ffoaduriaid o Syria, fel y bydd yn gwybod, ym mis Tachwedd 2015. Mae hwnnw wedi ei gefnogi gan fwrdd gweithrediadau. Ceir is-grŵp plant i'r bwrdd gweithrediadau, a bydd hwnnw’n sicrhau cydgysylltiad cynlluniau newydd i gymryd plant sy'n ffoaduriaid o'r dwyrain canol a gogledd Affrica, plant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches o wersylloedd yn Ewrop, a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches sydd wedi cyrraedd yng Nghaint. Mae cynhadledd yn cael ei chynnal ar 12 Gorffennaf gan y Swyddfa Gartref gyda'r awdurdodau lleol i lansio'r cynllun trosglwyddo cenedlaethol yng Nghymru.
Brif Weinidog, hoffwn adleisio’r pryderon a godwyd gan Julie Morgan o ran y sylwadau hiliol sydd wedi digwydd ers y bleidlais Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, a byddwn yn condemnio'r dull hwnnw o ymateb i'r refferendwm Ewropeaidd. Ond tybed a ydych chi wedi ystyried sut, yn y dyfodol—gyda’r Gweinidog cymunedau, o bosibl—y gallwn ni geisio dod â chymunedau at ei gilydd. Oherwydd, pleidleisiodd llawer o bobl yn y refferendwm hwn, boed hynny am resymau o bleidleisio yn erbyn y sefydliad neu bleidleisio yn erbyn tlodi yn eu hardaloedd lleol. Sut y gallwn ni nawr, gan roi’r bleidlais o’r neilltu, geisio dod â phobl at ei gilydd, i symud ymlaen fel cenedl fel nad ydym yn gweld sefyllfaoedd yn y dyfodol lle mae pobl wedi eu rhannu ac yn troi yn erbyn ei gilydd yn eu cymunedau eu hunain?
Nid oes amheuaeth bod ein cenedl wedi ei rhannu, ac mae'n bwysig bod y cydlyniad hwnnw’n cael ei ailsefydlu. Nid wyf yn credu bod y rhaniad hwnnw wedi ymddangos yn sydyn. Nid wyf yn credu, yn sydyn, bod pobl wedi newid eu meddyliau o ran y ffordd y maen nhw’n gweld pobl eraill. Bydd lleiafrif bach bob amser sy'n teimlo felly—mae hynny'n wir am bron i bob gwlad yn y byd, yn anffodus. Ond, na, rwy’n meddwl bod rhaid i’r pwyslais nawr fod —a byddaf yn sôn amdano yn ddiweddarach, yn y ddadl—mai nawr yw'r amser i ailadeiladu ac uno Cymru, ein cenedl, er mwyn gwneud yn siŵr nad yw’r hyn yr ydym ni wedi ei weld fel chwalfa mewn rhai cymunedau, o ran cydlyniant, yn rhywbeth y dylem ni ei weld yn y tymor hir.
Brif Weinidog, a gaf i ymuno â'r rhai sydd eisoes wedi mynegi eu condemniad o'r ymosodiadau a’r beirniadaethau hiliol sydd wedi digwydd ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn mannau eraill yn y diwrnodau diwethaf? Ond a allwch chi hefyd ymuno â mi i ganmol gwaith cymunedau ffydd ledled Cymru, sydd wedi gwneud eu gorau glas i amddiffyn y ffoaduriaid hynny o Syria a phobl sydd wedi dod i Gymru i ffoi erledigaeth yn eu gwledydd, ac, yn arbennig, Eglwys Uniongred Syria, sydd, wrth gwrs, â chynrychiolaeth gref yma yng Nghymru ac sydd wedi ymgysylltu'n gadarnhaol iawn gyda’r fforwm cymunedau ffydd, yr ydych chi, wrth gwrs, yn ei gadeirio, a gwaith y Cynulliad, gyda'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd?
Ydy, mae'r fforwm cymunedau ffydd wedi bod yn hynod ddefnyddiol o ran nodi problemau wrth iddynt godi, a chynllunio ar gyfer y dyfodol hefyd. Ac mae'n enghraifft wirioneddol o’r rhai hynny o lawer o wahanol grefyddau yn gweithio gyda'i gilydd er y budd cyffredin o hybu lles dynoliaeth, os caf ei roi felly. Mae'n fforwm sy'n gweithio'n dda iawn, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn parhau yn y dyfodol.
Nodaf fod Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe i gyd yn y 10 uchaf o ddinasoedd y DU o ran derbyn ffoaduriaid. A oes gennym ni unrhyw syniad beth yw cyfanswm y gost i awdurdodau lleol yng Nghymru o ddarparu tai i’r mewnlifiad diweddar o ffoaduriaid?
Mae 78 ohonyn nhw—nid yw’n gost sylweddol, ac rydym ni’n disgwyl i’r costau hynny gael eu talu’n llawn neu'n rhannol gan y Swyddfa Gartref.