Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 28 Mehefin 2016.
Bydd aelodau Gorllewin De Cymru, gan gynnwys yr Aelod dros Ogwr wrth gwrs, fod yn ymwybodol o'r angen am ffordd osgoi ddwyreiniol ar gyfer cymunedau Llanharan, ac rwy’n gobeithio y bydd hynny'n rhan o'r cynlluniau ar gyfer prifddinas-ranbarth Caerdydd a'i phrosiectau seilwaith, gadewch i ni ddweud. Ond ym mlaenau'r Cymoedd dwyreiniol yn fy rhanbarth i y mae’n fwy anodd i’r boblogaeth gael y cyfleoedd o ddarpar gynlluniau dinas-ranbarth. Mae’r mesuriadau o bellter ar fap yn weddol ddiystyr os nad yw’r seilwaith trafnidiaeth gennych chi i gyrraedd y cymunedau hynny. Beth ydych chi’n ei wneud i sicrhau bod bwrdd y ddinas-ranbarth yn siarad â busnesau a'r awdurdod lleol am sicrhau bod yr ardal teithio i'r gwaith yn cynnwys blaenau’r cymoedd hynny yn nwyrain fy rhanbarth?