Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 28 Mehefin 2016.
Yn sicr, mae'n hanfodol. Y pwynt am y metro yw, bydd, mi fydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio i ddinasoedd fel Caerdydd i weithio, ond hefyd yn ei gwneud yn haws i fuddsoddiad deithio i fyny cymoedd hefyd. Un o'r problemau, yn amlwg, yr ydym ni’n ei hwynebu weithiau yw bod buddsoddwyr yn dweud wrthym, 'Wel, mae braidd yn bell i ffwrdd—y gymuned hon'. Nid wyf eisiau i hynny fod yn wir yn y dyfodol; dyna pam mae’r metro’n cael ei gynnig.
Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau wedi canolbwyntio ar y map rheilffyrdd, ond mae'r map bysiau yn hynod o bwysig hefyd. Os edrychwn ni ar y tri chwm ar ben dwyreiniol Gorllewin De Cymru, mae gan un rheilffordd, efallai y bydd gan un rheilffordd, o hyd, yn y dyfodol—rheilffordd gadw, Cwm Garw—a chollodd un ei reilffordd ym 1984 pan gaeodd Glofa Wyndham Western. Felly, i’r cymunedau hynny, yn amlwg, y dewis bws y byddwn ni’n ei ystyried, ond bydd yn ddewis bws sy'n cysylltu'n briodol nid yn unig â’r bysiau pellter hir yn McArthurGlen, ond hefyd, wrth gwrs, â gorsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr, er mwyn sicrhau bod pobl wedi’u cysylltu cymaint â phosibl â lle mae'r swyddi ac i fuddsoddiad ddilyn y llwybrau hynny i fyny i’r cymunedau hynny.