Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, rwy'n falch iawn o glywed eich bod eisiau defnyddio'r pwerau rheoleiddio sydd ar gael i atal gamblo sy’n achosi problem mewn cymdeithas. Byddwch yn gwybod yr ystyrir bod tua un o bob 50 o ddynion yn gaeth i gamblo erbyn hyn, ac mae hwnnw’n ffigur sy’n peri pryder mawr, a gall gael effeithiau niweidiol iawn ar gymdeithas. Ond a ydych chi’n rhannu gyda mi y pryder a fynegwyd gan y rhai a oedd yn bresennol yng nghynhadledd Stafell Fyw Caerdydd, Beat the Odds, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf yn adeilad y Pierhead, nad oes digon o waith yn cael ei wneud i ddatblygu gwasanaethau caethiwed i gamblo yma yng Nghymru? Mae gennym ni un ardderchog yma yng Nghaerdydd, a gefnogir gan y Stafell Fyw a CAIS—elusen, wrth gwrs, sy’n gweithredu ar draws Cymru gyfan—ond nid yw’r rheini ar gael ym mhob rhan o Gymru eto, ac mae cyfle, rwy’n credu, i’w datblygu. Pa waith fydd eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod mynediad cyfartal at wasanaethau o'r fath yn y dyfodol?