<p>Caethiwed i Gamblo</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Bydd y strategaeth cynhwysiant ariannol sydd gennym ni yn ystyried sut y gallwn ddatblygu ffyrdd eraill o helpu pobl i ymdrin â gamblo, ac yn helpu pobl i wneud dewisiadau cytbwys am gamblo. Ddim yn bell yn ôl, roedd siopau betio y tu ôl i ddrysau caeedig a ffenestri tywyll. Nawr, mae ym mhobman. I'r rhai ohonom ni sydd â diddordeb parhaus ym mhencampwriaeth Ewrop, rydym ni’n gweld, pob un hysbyseb, lle mae pobl hyd yn oed yn cael eu hannog i gymryd eu harian cyn i’r gêm orffen hyd yn oed. Mae'r oes ddigidol wedi cynnig cyfleoedd gwych i'r diwydiant gamblo, ond cyfleoedd gwych i bobl ddod yn fwy caeth nag y gallent fod cynt. Dyna pam mae’n hynod o bwysig i ni ymdrechu’n galetach.