Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel undebwr llafur balch, rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddiddymu agweddau ar y darn niweidiol hwn o ddeddfwriaeth ideolegol na roddwyd ystyriaeth briodol iddi, deddfwriaeth sy’n achosi mwy, nid llai, o aflonyddwch diwydiannol. Gallai’r Ddeddf danseilio’r berthynas waith gynhyrchiol sydd gennym yn seiliedig ar bartneriaeth, perthynas rydym yn ei hyrwyddo yng Nghymru, rhwng y Llywodraeth ac undebau llafur. A wnewch chi roi ymrwymiad pellach i barhau ac adeiladu ar waith partneriaeth o’r fath?