1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 29 Mehefin 2016.
1. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddiddymu agweddau ar Ddeddf Undebau Llafur 2016? OAQ(5)0009(FLG)
Cafodd cynlluniau i ddiddymu agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur eu cynnwys yn natganiad rhaglen ddeddfwriaethol y Prif Weinidog ddoe, a bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn ystod blwyddyn gyntaf y tymor Cynulliad hwn.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel undebwr llafur balch, rwy’n croesawu ymrwymiad y Llywodraeth hon i ddiddymu agweddau ar y darn niweidiol hwn o ddeddfwriaeth ideolegol na roddwyd ystyriaeth briodol iddi, deddfwriaeth sy’n achosi mwy, nid llai, o aflonyddwch diwydiannol. Gallai’r Ddeddf danseilio’r berthynas waith gynhyrchiol sydd gennym yn seiliedig ar bartneriaeth, perthynas rydym yn ei hyrwyddo yng Nghymru, rhwng y Llywodraeth ac undebau llafur. A wnewch chi roi ymrwymiad pellach i barhau ac adeiladu ar waith partneriaeth o’r fath?
Wel, mae’r Aelod yn llygad ei lle wrth ddweud mai’r rheswm pam rydym yn gwrthwynebu’r agweddau hyn ar y Ddeddf Undebau Llafur yw oherwydd ein bod yn credu y byddant yn gwneud pethau’n waeth, yn hytrach na gwell, o ran cysylltiadau diwydiannol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ac mae’r dull partneriaeth rydym wedi’i gael yng Nghymru yn golygu, er bod streiciau wedi bod ar draws y ffin yn y gwasanaeth tân, ymysg nyrsys ac ymysg meddygon, nid yw hynny wedi digwydd o gwbl yma yng Nghymru, ac yn fy marn i, y rheswm dros hynny yw oherwydd ein hymrwymiad i’r dull partneriaeth. Rydym wedi ymrwymo i barhau â’r dull hwnnw. Cyfarfûm â chyd-ysgrifenyddion cyngor partneriaeth y gweithlu ddoe, a bydd ein cynigion ar gyfer Bil y Cynulliad i ddiddymu’r agweddau hynny ar y Ddeddf Undebau Llafur yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf cyngor partneriaeth y gweithlu, ar 14 Gorffennaf.
Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad bod Llywodraeth Cymru yn ceisio diddymu’r Ddeddf Undebau Llafur fel y mae’n gymwys i faterion datganoledig, ond hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd yn fodlon mynd ambell gam ymhellach, mewn gwirionedd. Yn gyntaf, a wnaiff ymrwymo i adolygu pob deddfwriaeth atchweliadol a basiwyd yn erbyn y gweithwyr yn yr 1980au a’r 1990au, gyda golwg ar ddiddymu elfennau sy’n berthnasol i swyddogaethau datganoledig? Ac yn ail, a wnaiff ymrwymiad y bydd y Llywodraeth hon yng Nghymru, yn y dyfodol, yn cefnogi cynigion i wahardd arferion gwaith anfoesol, megis camddefnyddio contractau dim oriau, hyd yn oed os yw hynny’n golygu gwthio ffiniau datganoli?
Wel, Lywydd, mae’n rhaid i ni weithredu o fewn ffiniau ein cymhwysedd datganoledig. Yn ogystal â dymuno diddymu agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur oherwydd ei heffaith ar gysylltiadau diwydiannol a’n dull partneriaeth, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, mae ein gwrthwynebiad iddynt yn seiliedig ar ein cred eu bod yn tresmasu ar gyfrifoldebau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a dyna pam y byddwn yn ceisio eu diddymu.
I ateb cwestiynau’r Aelodau ynghylch deddfau undebau llafur blaenorol, cyngor partneriaeth y gweithlu yw’r union fan y byddwn yn trafod y pethau hynny, a phan fo cytundeb rhyngom ni, undebau llafur a chyflogwyr, byddwn yn parhau i adolygu pob agwedd ar ddeddfwriaeth o’r fath. O ran contractau dim oriau, mae cryn dipyn o waith yn digwydd ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â’r mater hwnnw, a bydd Aelodau eraill o’r Cabinet yn cyflwyno cynigion yn ystod gweddill y tymor Cynulliad hwn.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o’r diogelwch cyflogaeth a gynigir i weithwyr yng Nghymru yn seiliedig ar ddiogelwch sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd. Rydym eisoes wedi gweld arwyddion, fel y soniais ddoe, gan rai o’r rhai mwyaf blaenllaw yn yr ymgyrch i adael yr UE, eu bod yn gweld rhan o’r trafodaethau ar y DU yn gadael Ewrop fel cyfle i ddadwneud llawer o’r ddeddfwriaeth hawliau cyflogaeth, gan gynnwys cyfreithiau gwrth-wahaniaethu a gwarantau ar leiafswm absenoldeb â thâl, terfyn uchaf ar oriau gwaith, a darpariaethau mamolaeth a thadolaeth. Pa mor hyderus y gall undebwyr llafur yng Nghymru fod y bydd hawliau gweithwyr yn parhau i gael eu diogelu ar ôl i Brydain adael yr UE?
Wel, mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn, sy’n gosod ein penderfyniad i ddiddymu—i ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu—agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur yn y cyd-destun hynod o bwysig hwnnw. Roedd yr achos dros barhau i fod yn aelod o’r UE yn seiliedig ar y mesurau diogelwch cymdeithasol roedd bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn eu darparu i bobl sy’n gweithio. Heb y mesurau diogelwch hynny, ac o ystyried bod Llywodraeth y DU yn nwylo pobl a oedd yn dadlau dros adael yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn iawn i geisio sicrhau cymaint o ddiogelwch ag y gallwn ei roi i weithwyr yng Nghymru, drwy’r camau gweithredu y mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gallu eu cymryd.