Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 29 Mehefin 2016.
Wel, mae’r Aelod yn llygad ei lle wrth ddweud mai’r rheswm pam rydym yn gwrthwynebu’r agweddau hyn ar y Ddeddf Undebau Llafur yw oherwydd ein bod yn credu y byddant yn gwneud pethau’n waeth, yn hytrach na gwell, o ran cysylltiadau diwydiannol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ac mae’r dull partneriaeth rydym wedi’i gael yng Nghymru yn golygu, er bod streiciau wedi bod ar draws y ffin yn y gwasanaeth tân, ymysg nyrsys ac ymysg meddygon, nid yw hynny wedi digwydd o gwbl yma yng Nghymru, ac yn fy marn i, y rheswm dros hynny yw oherwydd ein hymrwymiad i’r dull partneriaeth. Rydym wedi ymrwymo i barhau â’r dull hwnnw. Cyfarfûm â chyd-ysgrifenyddion cyngor partneriaeth y gweithlu ddoe, a bydd ein cynigion ar gyfer Bil y Cynulliad i ddiddymu’r agweddau hynny ar y Ddeddf Undebau Llafur yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf cyngor partneriaeth y gweithlu, ar 14 Gorffennaf.