<p>Deddf Undebau Llafur 2016</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:32, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, mae’n rhaid i ni weithredu o fewn ffiniau ein cymhwysedd datganoledig. Yn ogystal â dymuno diddymu agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur oherwydd ei heffaith ar gysylltiadau diwydiannol a’n dull partneriaeth, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, mae ein gwrthwynebiad iddynt yn seiliedig ar ein cred eu bod yn tresmasu ar gyfrifoldebau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a dyna pam y byddwn yn ceisio eu diddymu.

I ateb cwestiynau’r Aelodau ynghylch deddfau undebau llafur blaenorol, cyngor partneriaeth y gweithlu yw’r union fan y byddwn yn trafod y pethau hynny, a phan fo cytundeb rhyngom ni, undebau llafur a chyflogwyr, byddwn yn parhau i adolygu pob agwedd ar ddeddfwriaeth o’r fath. O ran contractau dim oriau, mae cryn dipyn o waith yn digwydd ar draws y Llywodraeth mewn perthynas â’r mater hwnnw, a bydd Aelodau eraill o’r Cabinet yn cyflwyno cynigion yn ystod gweddill y tymor Cynulliad hwn.