<p>Deddf Undebau Llafur 2016</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 1:33, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o’r diogelwch cyflogaeth a gynigir i weithwyr yng Nghymru yn seiliedig ar ddiogelwch sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd. Rydym eisoes wedi gweld arwyddion, fel y soniais ddoe, gan rai o’r rhai mwyaf blaenllaw yn yr ymgyrch i adael yr UE, eu bod yn gweld rhan o’r trafodaethau ar y DU yn gadael Ewrop fel cyfle i ddadwneud llawer o’r ddeddfwriaeth hawliau cyflogaeth, gan gynnwys cyfreithiau gwrth-wahaniaethu a gwarantau ar leiafswm absenoldeb â thâl, terfyn uchaf ar oriau gwaith, a darpariaethau mamolaeth a thadolaeth. Pa mor hyderus y gall undebwyr llafur yng Nghymru fod y bydd hawliau gweithwyr yn parhau i gael eu diogelu ar ôl i Brydain adael yr UE?