<p>Deddf Undebau Llafur 2016</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:34, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn, sy’n gosod ein penderfyniad i ddiddymu—i ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu—agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur yn y cyd-destun hynod o bwysig hwnnw. Roedd yr achos dros barhau i fod yn aelod o’r UE yn seiliedig ar y mesurau diogelwch cymdeithasol roedd bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn eu darparu i bobl sy’n gweithio. Heb y mesurau diogelwch hynny, ac o ystyried bod Llywodraeth y DU yn nwylo pobl a oedd yn dadlau dros adael yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn iawn i geisio sicrhau cymaint o ddiogelwch ag y gallwn ei roi i weithwyr yng Nghymru, drwy’r camau gweithredu y mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gallu eu cymryd.