<p>Trefniadau Pensiwn Gwladol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:37, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Weinidog, cafodd cydraddoli graddol oedran pensiwn y wladwriaeth i 65 oed ar gyfer dynion a menywod ei nodi gyntaf yn Neddf Pensiynau 1995. Yn hytrach na chynyddu oedran pensiwn y wladwriaeth dros nos, mae Llywodraethau olynol wedi cyflwyno newidiadau fesul cam. O ystyried bod y gyfradd gyflogaeth ymysg menywod yn uwch nag erioed, a yw’r Gweinidog yn cytuno bod cydraddoli oedran ymddeol ar gyfer dynion a menywod yn gam mawr tuag at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a’i fod yn rhoi pensiwn y wladwriaeth ar sail gynaliadwy drwy ystyried bod disgwyliad oes yn cynyddu?