Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, croeso i chi yn eich rôl newydd a diolch i chi am eich trafodaethau cychwynnol gyda mi ynglŷn â rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu dros y tymor Cynulliad hwn.
Ysgrifennydd, dros yr wythnos ddiwethaf yn sicr, cafwyd newid seismig yn y tirlun gwleidyddol, newid a groesawyd gan rai yn fwy nag eraill yn y Siambr hon. Rydym yn awr yn wynebu nifer o gwestiynau allweddol ynghylch cyllido Cymru yn y dyfodol. Wrth i chi ddatblygu’r gyfundrefn dreth newydd a’r ddeddfwriaeth dreth newydd y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati ddoe, a allwch roi’r newyddion diweddaraf i ni ar y cynnydd a wneir ar y fframwaith cyllidol?