Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch i Nick Ramsay am ei sylwadau agoriadol ac am gytuno i gyfarfod â mi i rannu rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â’r heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae’n hollol iawn i ddweud bod y rheini’n cael eu siapio gan y tirlun sydd ohoni yn dilyn y refferendwm. Rwyf wedi cael trafodaeth eisoes â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Cytunasom yn y sgwrs dros y ffôn y byddem yn cyfarfod cyn toriad yr haf, a’r cynllun y buom yn siarad amdano oedd cael cyfres o gyfarfodydd yn ystod yr hydref er mwyn cytuno ar y fframwaith cyllidol y bydd yn gwbl angenrheidiol i ni weithredu o’i fewn pan ddaw pwerau trethu yn uniongyrchol i Gymru. Mae’r cyfarfod cyn toriad yr haf wedi’i nodi yn y dyddiadur a bydd yn digwydd. Nid oes amheuaeth y bydd yn rhaid i ni raddnodi rhai o’r cynlluniau ar gyfer yr hydref yn ôl rhai o’r digwyddiadau—cyllideb bellach, er enghraifft—y gwyddom bellach eu bod yn mynd i ddigwydd.