<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 29 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 1:42, 29 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd, ac fel y gwyddoch, rydym yn cefnogi eich gwaith ar ddatblygu fframwaith cyllidol effeithiol. Fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn pryderu ers amser am y mecanwaith ar gyfer gwneud gostyngiadau i’r grant bloc yn dilyn datganoli treth, yn enwedig treth incwm. Pe baem yn cael y mecanwaith anghywir, gallai Cymru fod ar ei cholled yn sylweddol dros gyfnod o amser mewn ffordd a fyddai bron yn gorfodi cynnydd yn y dreth. Cafodd yr Alban gytundeb gyda’r Trysorlys na ddylai newidynnau megis newid yn y boblogaeth fod yn risg y dylai cyfran yr Alban o’r dreth incwm ei hysgwyddo ac y dylid ei chynnwys yn ffactor o’r grant bloc. A ydych yn ceisio cael yr un fargen i Gymru?