Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 29 Mehefin 2016.
Mae’n iawn na ddylai Cymru, wrth gwrs, golli ceiniog o ganlyniad i golli’r cronfeydd strwythurol. Ond onid yw’n wir fod y lefel hon o gyllid yn angenrheidiol, ond yn annigonol? Oherwydd, hynny yw, dros y 17 flynedd ddiwethaf ers i ni fod ag Amcan 1, mae’r bwlch ffyniant wedi tyfu. ‘Does bosibl nad yr hyn sydd ei angen ar Gymru yw lefel uwch o gymorth rhanbarthol, nid y lefel gyfatebol. Cynllun Marshall gyfer economi Cymru—nid yn unig cyllid ychwanegol, ond pwerau trethu newydd a allai roi mantais gystadleuol i Gymru yn y dirwedd economaidd newydd. O ystyried nad yw dyfarniad Llys Cyfiawnder Ewrop yn achos yr Azores ar gystadleuaeth treth yn mynd i fod yn gymwys bellach, a fydd yn gwneud achos dros adael i Gymru, fel Gogledd Iwerddon, osod ei chyfraddau treth gorfforaeth ei hun, yn ogystal ag ennill pwerau eraill dros gredydau treth a lwfansau cyfalaf ymchwil a datblygu?