Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 29 Mehefin 2016.
Wel, rwy’n credu y bydd pobl a wrandawodd ar yr honiadau a wnaed gan yr ymgyrch ‘gadael’ yn ystod y refferendwm wedi meddwl yn syml na fyddai Cymru yn gwneud mor dda ag y gwnaethom o dan y drefn flaenorol, ond y byddai llif newydd o arian i wasanaethau cyhoeddus, ac i’r lleoedd sydd ei angen fwyaf yn sgil y penderfyniad hwnnw. Ac wrth gwrs fel Llywodraeth Cymru byddem yn awyddus i ddadlau’r union achos hwnnw.
Bydd Bil Cymru, os yw’n cyrraedd y llyfr statud, yn rhoi rhai pwerau newydd i argymell trethi newydd yma yng Nghymru. Rwy’n credu y byddwn yn ddi-os eisiau trafod a ddylai treth gorfforaeth fod yn eu plith—yn bersonol rwyf bob amser wedi teimlo bod yr achos drosti yn wan iawn, ac yn llawer mwy tebygol o arwain at ras i’r gwaelod, lle byddwn yn cymryd llai o arian gan gorfforaethau i ariannu gwasanaethau cyhoeddus nag y gwnaethom yn y gorffennol. Mae’n ddilema a welwch yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon ar hyn o bryd.