Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 29 Mehefin 2016.
Pa un a ydym yn cyfeirio at blant sy’n derbyn gofal, neu blant mewn gofal, rydym yn sôn am fywydau unigol y rhai sy’n dibynnu arnom i roi cyfleoedd bywyd iddynt. Fel y clywsom, roedd nifer y plant a oedd yn derbyn gofal yng Nghymru yn 2015, sef 5,617, yn dangos cynnydd o 200 ers 2011 a 1,000 ers 2008. Ac fel y dywedais pan oeddem yn trafod hyn yn 2011, mae canlyniadau seicolegol a chymdeithasol plant sy’n derbyn gofal yn llawer salach o’u cymharu â’u cyfoedion. Canfu astudiaeth yn 2004 fod 49 y cant o blant a phobl ifanc rhwng pump a 17 oed a oedd yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru yn dioddef o anhwylderau meddyliol. Canfu astudiaeth arall fod anhwylderau seiciatrig yn arbennig o uchel ymhlith y rhai sy’n byw mewn gofal preswyl ac sy’n newid lleoliad yn aml.
Er nad yw 94 y cant o blant sy’n derbyn gofal yn dod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol, dangosodd ymchwil yn 2005 y bydd gan hyd at 41 y cant o’r plant sy’n cael eu rhoi yn y ddalfa ar draws y DU rywfaint o hanes o fod mewn gofal. Dywedodd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, ‘Couldn’t Care Less’, y dylai’r ffordd y caiff nifer o blant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael y system ofal eu trin beri cywilydd cenedlaethol. Dywedasant fod y plant hyn yn rhy aml yn mynd ymlaen i fyw bywydau a nodweddir gan ddiweithdra, digartrefedd, salwch meddwl a dibyniaeth. Rydym yn talu’r costau enfawr hyn drwy’r system cyfiawnder troseddol a’r gwasanaeth iechyd, a disgwylir iddynt godi.
Canfu adroddiad Pwyllgor Plant, Ysgolion a Theuluoedd San Steffan, a gyhoeddwyd yn 2009, fod y wladwriaeth yn methu yn ei dyletswydd i weithredu fel rhiant i blant mewn gofal drwy beidio â’u diogelu’n ddigonol rhag camfanteisio rhywiol, digartrefedd a dechrau troseddu, gyda phlant mewn gofal, 10 oed a hŷn, yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o gael rhybudd neu o gael eu dyfarnu’n euog am droseddu. Datgelodd hefyd dystiolaeth o achosion o gamfanteisio ar ferched mewn cartrefi preswyl a hosteli a oedd wedi’u trefnu a’u targedu, a rhybuddiodd fod natur fregus pobl ifanc sy’n gadael gofal yn destun pryder mawr.
Mae adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2010-11 yn nodi bod darpariaeth eiriolaeth ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, pobl sy’n gadael gofal a phlant mewn angen yn anghyson ledled Cymru. Y gwersi sy’n deillio o adroddiad Syr Ronald Waterhouse, ‘Ar Goll Mewn Gofal’, adolygiad Carlisle, ‘Peth Rhy Ddifrifol’, a’n hadroddiad ni, ‘Datgan Pryderon’, yn ôl yr hyn a ddywedwyd, yw bod eiriolaeth yn elfen hanfodol o ddiogelu sy’n galluogi plant a phobl ifanc i siarad pan fyddant yn gweld bod rhywbeth o’i le. Os yw hyn yn mynd i ddigwydd ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc mewn gofal, ychwanegodd, byddem yn disgwyl i bob un ohonynt gael eu hannog i gael eiriolwr y gallant feithrin perthynas â hwy ac ymddiried ynddynt.
Roedd y papur hefyd yn dangos bod gwledydd eraill i’w gweld yn llawer mwy ymatebol i anghenion y plant y maent wedi eu rhoi mewn gofal, gyda chanlyniadau gwell yn aml. Siaradodd y comisiynydd plant blaenorol am ei rwystredigaeth ynglŷn â’r ‘ymateb cychwynnol araf’ i’r argymhellion a wnaeth ynglŷn ag eiriolaeth annibynnol yn ei adroddiad ‘Lleisiau Coll’, a gyhoeddwyd yn 2012, a’r adroddiad dilynol, ‘Lleisiau Coll: Cynnydd Coll’ a gyhoeddwyd yn 2013. Felly, mae angen i ni wybod a fydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i weithredu model cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth statudol i fodloni gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae angen i ni hefyd fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sy’n derbyn gofal a disgyblion eraill, sy’n codi o 23 y cant yn y cyfnod sylfaen i 40 y cant yng nghyfnod allweddol 4, gyda 18 y cant yn unig o blant sy’n derbyn gofal yn ennill pum TGAU gradd A* i C, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg a mathemateg.
Cyfeiriodd adroddiad y comisiynydd plant, ‘Bywyd Llawn Gofal’, a gyhoeddwyd yn 2009, at fanteision cyflwyno cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, a phedair blynedd yn ôl, mynychais lansiad swyddogol cerdyn A2A Barnardo’s Cymru a Chyngor Sir y Fflint ar gyfer gofalwyr ifanc, plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal gan y comisiynydd plant. Y cerdyn hwn oedd y cyntaf o’i fath yng Nghymru, ac fe’i cynlluniwyd i helpu pobl ifanc i gael cydnabyddiaeth a mynediad prydlon at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Er y dylai hwn fod wedi bod yn dempled ar gyfer cerdyn Cymru gyfan—mater y tynnais sylw Llywodraeth Cymru ato ar y pryd—rwy’n deall yn awr nad yw wedi cael y gefnogaeth angenrheidiol ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn a’i ymestyn ar gyfer Cymru gyfan.
Ac fel y mae adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, ‘Survival of the Fittest’, yn ei ddweud, ac rwy’n gorffen gyda hyn, mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r unigrwydd a’r arwahanrwydd eithafol a deimlir gan y rhai sy’n gadael gofal, drwy ddod o hyd i ffyrdd o feithrin perthynas barhaus a chefnogol ag eraill, â theuluoedd biolegol, brodyr a chwiorydd, cyn-ofalwyr a gwasanaethau plant, sy’n para ymhell y tu hwnt i 21 oed.