– Senedd Cymru am 4:58 pm ar 29 Mehefin 2016.
Rŷm ni’n awr yn symud ymlaen i’r eitem nesaf ar yr agenda, sef y ddadl fer. I’r rhai ohonoch chi sydd yn gadael, a wnewch chi hynny yn gyflym ac yn dawel?
Ac felly, rydym yn cychwyn ar y ddadl fer ac rydw i’n galw ar Rhianon Passmore.
Diolch, Lywydd. Anrhydedd mawr i mi, wrth gynrychioli pobl Islwyn, yw codi i gyflwyno’r ddadl fer gyntaf yn y pumed Cynulliad gan Aelod Cynulliad a etholwyd ym mis Mai 2016. Fel cyn-athro, darlithydd a chyn-aelod cabinet dros addysg mewn llywodraeth leol nid yw’n syndod fy mod wedi penderfynu canolbwyntio’r ddadl hon ar y mater mwyaf y mae cartref democratiaeth Cymru yn y fan hon yn gyfrifol amdano—addysg.
Lywydd, rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau Cynulliad Llafur Cymru canlynol sydd wedi gofyn i mi i siarad yn y ddadl hon. Yn dilyn fy araith byddaf yn ildio munud o’r pymtheg munud a glustnodwyd ar fy nghyfer i’r canlynol: Mike Hedges AC, Hannah Blythyn AC, Hefin David AC, David Rees AC a Huw Irranca-Davies AC.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu yn bersonol ac yn ffurfiol Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’w rôl ar ran pobl Islwyn. Rwy’n dymuno’n dda iddi yn ei rôl hanfodol a dylai wybod y bydd yn cael fy nghefnogaeth i sicrhau nad ydym yn gadael unrhyw blentyn ar ôl yn ein hymgyrch i wella canlyniadau addysgol.
Addysg yw "athrylith warcheidiol ein democratiaeth." Nid oes dim mewn gwirionedd yn golygu mwy i’n dyfodol, nid ein hamddiffynfeydd milwrol, ein taflegrau neu ein hawyrennau bomio, ein heconomi gynhyrchu, na hyd yn oed ein system ddemocrataidd o lywodraethu. Gan fod pob un o’r rhain yn ddiwerth os nad oes gennym y grym ymenyddol i’w cefnogi a’u cynnal.
Dyna eiriau unfed ar bymtheg ar hugain Arlywydd yr Unol Daleithiau, Lyndon Baines Johnson. Roedd addysg yn gonglfaen i freuddwyd deilwng yr Arlywydd Johnson o gymdeithas wych i bobl America, ac mae’n gonglfaen i raglen lywodraethu Llafur Cymru. Fel athro wrth fy ngalwedigaeth, rwyf hefyd yn ddigon hen i wybod sut beth, yn llythrennol, oedd defnyddio’r sialc. Rwy’n cydnabod y daith rydym wedi’i theithio. Diolch i bolisi Llafur Cymru a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd addysgu a dysgu trawsnewidiol, a’r amgylcheddau dysgu hynny, rydym heddiw’n gwybod bod y rhain yn ysgolion arloesol ac yn sefydliadau addysgol addas i’r diben a adeiladwyd yng Nghymru, ac na cheir eu gwell yn unman. Oherwydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain rwy’n dweud ei bod yn fwy na rhaglen adeiladu.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi £700 miliwn rhwng 2014-15 a 2018-19. Gydag arian cyfatebol gan awdurdodau lleol, byddai hyn yn golygu buddsoddiad cyfalaf o £1.4 biliwn mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, i gefnogi 150 o brosiectau ar draws yr holl awdurdodau lleol erbyn mis Ebrill 2019. Gadewch i mi ailadrodd y bydd yr £1.4 biliwn, gyda Llywodraeth Lafur Cymru a chynghorau lleol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd, yn chwyldroi tirwedd addysgol Cymru. Mae’n ymrwymiad digynsail i’n plant ac yn ymrwymiad digynsail i ddyfodol Cymru gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Mae’n hanfodol bwysig i’n cymunedau, ein plant a’n sgiliau a’r economi gymwysterau, ac ni fyddai wedi digwydd heb Lywodraeth Lafur.
Nid yw’n ormod dweud bod rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn bolisi blaenllaw sy’n nodi datganoli yng Nghymru. Ei nod yw cyflawni: amgylcheddau dysgu yng Nghymru a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl gweithredu strategaethau ar gyfer gwella yn llwyddiannus a chanlyniadau addysgol gwell; bydd yn sicrhau economi ac arbedion gwell mewn amgylcheddau dysgu drwy wneud gwell defnydd o adnoddau; a bydd yn darparu system addysg gynaliadwy yng Nghymru sy’n bodloni safonau adeiladu cenedlaethol ac yn lleihau costau cylchol ac ôl troed carbon adeiladau addysg.
Oherwydd y rhaglen arloesol hon yma yng Nghymru, mae Cymru’n destun eiddigedd ledled y DU. Ym mis Ionawr 2016, rhoddodd ein cyn-Weinidog, Huw Lewis, y newyddion diweddaraf yn ystod y gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2016-17. Cadarnhaodd mai targed cyffredinol Llywodraeth Cymru yw adnewyddu neu ailadeiladu 150 o ysgolion a cholegau erbyn diwedd mis Ebrill 2019. Mae aelodau’r Siambr hon a’n gweithlu addysgu ymroddedig ledled Cymru yn boenus o ymwybodol o gyflwr adeiladau ysgolion yn y 1980au a’r 1990au. Fel llywodraethwr ysgol ar y pryd, dyma adeg a gofiaf gydag arswyd go iawn pan oeddem yn gorfod ystyried, nid cynllunio’r cwricwlwm ond diswyddo athrawon rhagorol na allem fforddio’u colli; adeg nad wyf yn dymuno’i hailadrodd, pan ddylem fod wedi bod yn adeiladu ysgolion fel eglwysi cadeiriol ar gyfer dysg, nid cabanau yn yr iard chwarae, sy’n dal i fodoli mewn rhai mannau. [Torri ar draws.] Ddim ar hyn o bryd. Mae gennyf ddigon, diolch yn fawr.
Yn ddiweddar iawn gwisgais fy het galed iawn a fy esgidiau glaw i fynd ar daith o amgylch yr enghraifft sy’n dod i’r amlwg yn gyflym yn fy etholaeth, sef Ysgol Uwchradd Islwyn. Fel rhan o raglen uchelgeisiol ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn 2013 y bydd ysgolion cyfun Oakdale a Phontllan-fraith yn cau yn 2016. Bydd disgyblion o’r ddwy ysgol yn trosglwyddo i ysgol sgleiniog bwrpasol newydd sbon gwerth £24 miliwn a adeiladir ar safle gwastadedd 3 ym Mharc Busnes Oakdale, diolch i Lywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Lafur Cymru a pholisi Llafur Cymru ar waith.
I gychwyn, bydd lle yn yr ysgol i 1,150 o ddisgyblion sy’n trosglwyddo o’r ddwy ysgol a chaiff ei hadeiladu i addysgu 1,000 o ddisgyblion prif ffrwd o’r dalgylch yn barhaol, a 50 o ddisgyblion ag anghenion cymhleth, mewn canolfan adnoddau arbenigol, o bob rhan o’r sir. Bydd ysgolion cynradd partner yn cynnwys Bryn, Cwmfelin-fach, Penllwyn, Pontllan-fraith, Rhiw Syr Dafydd, Trinant ac Ynys-ddu. Bydd y brif ysgol yn dri llawr o uchder, a bydd neuadd chwaraeon o uchder tebyg yn cysylltu ag adeilad deulawr lle bydd neuadd fwyta’r ysgol. Caiff ei hadeiladu ar ddyluniad modern a bydd cynlluniau’n cynnwys gardd eco a nodweddion dŵr. Testun balchder arall i’r ysgol fydd cae chwaraeon 3G a thrac athletau 200 metr gyda llifoleuadau, ynghyd â chae chwaraeon amlddefnydd ar gyfer pêl-rwyd a thenis. Bydd yn ysgol wirioneddol gymunedol gyda chysylltiadau gwaith agos gyda’r holl randdeiliaid, gan gynnwys rhieni, ysgolion cynradd partner, cyflogwyr lleol a’r bobl sy’n byw yn yr ardal leol.
Yn ddiweddar, gwahoddais nifer o blant o ddwy ysgol gyfun Oakdale a Phontllan-fraith i ddod gyda mi ar daith o amgylch safle’r ysgol newydd. Roedd y plant, o flynyddoedd 7, 8 a 9, yn amrywio o ran oedran rhwng 11 a 14 oed, a hwy fydd buddiolwyr uniongyrchol y polisi hwn a’r ysgol newydd hon. Yr hyn a welais yn eu llygaid oedd gwerthfawrogiad diffuant o’r posibiliadau sydd o’u blaenau a chyffro go iawn ynglŷn â’u dyfodol, a sylweddoliad heb ei fynegi ein bod ni, fel gwleidyddion, yn eu gwerthfawrogi a bod cymdeithas yn buddsoddi ynddynt, a bod eu dyfodol, drwy sicrhau eu bod yn dysgu mewn amgylchedd mor odidog, yn cael ei ddiogelu.
Cefais fy nharo, wrth i ni adael y safle adeiladu, gan y cwestiynau a ofynnodd y plant i’r tîm adeiladu o Willmot Dixon. Mae ysgol uwchradd newydd Islwyn yn cael ei hadeiladu ar safle hen lofa Oakdale—rhan o etifeddiaeth y gymuned honno—a gaeodd yn 1989. Wrth edrych at eu dyfodol, y plant hynny, y disgyblion hynny, a ofynnodd, ‘Beth yw hanes y pwll glo hwn?’ ac a ellid ei adlewyrchu yng ngwead ffisegol eu hysgol newydd. Plant yr unfed ganrif ar hugain yng Nghymru mewn ysgol unfed ganrif ar hugain yng Nghymru yn ymwybodol o dreftadaeth eu cymuned a’u hanes balch, sy’n ffurfio tapestri’r stori Gymreig, ond mewn dyfodol byd-eang—tystiolaeth go iawn fod ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn fwy na rhaglen adeiladu, gyda’r potensial gwirioneddol i drawsnewid bywydau.
Ond mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn fwy nag adeiladau a choncrid; mae’n rhan annatod o gynnydd ein cenedl a’n lle yn y byd. Y nod hirdymor yw datblygu rhaglen buddsoddi cyfalaf gyffredinol ar gyfer pob sector addysg, gan gynnwys y sectorau addysg bellach ac uwch, a fydd yn anelu at gyflawni amcanion gwella â blaenoriaeth rhaglen y prosiect. Byddai fy ffrind da y tu ôl i mi, John Griffiths, yr AC dros Ddwyrain Casnewydd, wedi siarad yn y ddadl hon pe na bai gennym gymaint o siaradwyr eisoes. Mae’n briodol falch y gallai canol Casnewydd ddod yn galon dysgu ar gyfer Gwent gyfan os yw datblygiad gwerth £60 miliwn rhwng prifysgol y ddinas a Choleg Gwent yn bwrw yn ei flaen. Mae Prifysgol De Cymru a Choleg Gwent wedi ymuno i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ardal wybodaeth newydd ar lannau’r Afon Wysg. Mae’r cynllun yn cynnwys datblygiad mawr ar gampws dinesig y brifysgol, gyda sefydliadau’n rhannu gofod yn yr adeilad neu’r adeiladau newydd. Er bod trefniadau ariannu ffurfiol i’w cadarnhau eto, disgwylir buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Fel y dywedodd llefarydd o Goleg Gwent, os gallwn wireddu’r uchelgais hwn, bydd myfyrwyr yn gallu dod i mewn yn 16 oed neu fel dysgwyr sy’n oedolion i goleg addysg bellach newydd modern yng nghanol y ddinas newydd.
Nid damweiniau yw camau gweithredu o’r fath: maent yn bwrpasol, ac maent wedi rhyddhau adnoddau Llywodraeth Cymru i arena o wariant ar addysg, ynghyd â chwricwlwm arloesol ac effeithiau Donaldson. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y rhain yn effeithio’n gadarnhaol ar gyfleoedd bywyd disgyblion a’u cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol—y rheswm pam yr euthum i fyd gwleidyddiaeth—popeth y mae Llafur yn rhoi gwerth arno a phopeth y mae polisïau Llafur yn ei gyflawni gyda’i gilydd, ac i bawb yn ein cymuned ac nid i’r 5 y cant uchaf yn unig. Mae rhaglenni o’r fath yn dangos effaith bwerus ar bobl a dyma pam rwyf yma heddiw. Addysg yn wir yw’r allwedd i symudedd cymdeithasol y siaredir amdano mor aml mewn cylchoedd academaidd, ond sydd mewn gwirionedd yn diogelu unigolion fel nad oes yn rhaid iddynt ddibynnu ar gontractau dim oriau gan Lywodraeth esgeulus y DU. Mae’n darparu llwybr go iawn i fywyd boddhaol, gwerthfawr a defnyddiol. Mae ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned, a chanolfannau hyblyg ar gyfer y gymuned yn y dyfodol yn thema enfawr yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ochr yn ochr â lleihau carbon a safonau rhagoriaeth BREEAM.
Felly, gymrodyr—dywedaf hynny eto wrth y Siambr—rwy’n cymeradwyo’r rhaglen hon o welliant trawsnewidiol i amgylcheddau addysgu a dysgu ein disgyblion gan wybod bod ymchwil yn cefnogi pwysigrwydd yr effaith ar gyflawniad addysgol, cyrhaeddiad a phresenoldeb, a phob un yn sbardun allweddol i’n cenedl ar gyfer adeiladu sgiliau, cyflogadwyedd, twf a chynhyrchiant ein cenedl.
Nid oes gennyf amheuaeth y bydd effaith Prydain yn gadael yr UE ar y pwynt hwn a methu â denu, yn y dyfodol, y ffrydiau ariannu strwythurol Ewropeaidd pellach yr ymgeisiwn amdanynt ar hyn o bryd, yn achosi heriau sylweddol iawn i raglen Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, ar gyfer cyfnod 2. Ond mae hon yn her y byddwn fel Llywodraeth ac fel cenedl yn ceisio’i datrys ar y cyd. Nid oes blaenoriaeth bwysicach na sicrhau bod plant Cymru yn cael eu paratoi i wynebu’r byd yn barod i gystadlu gydag unrhyw un yn y byd, ac fel y cyfryw, rwy’n falch o gymeradwyo rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain Llywodraeth Lafur Cymru i’r Siambr hon—a dweud ei bod yn fwy na rhaglen adeiladu. Diolch.
Rydych wedi gadael tri munud i chwech o siaradwyr, felly os gall eich chwe siaradwr i gyd wneud 30 eiliad gallant i gyd gael cyfle, ond os byddant yn cymryd mwy o amser na hynny, yna mae gennyf ofn y bydd y gweddill yn colli cyfle. Felly, cawn weld sut aiff hi. Mike Hedges.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi’n gyntaf oll ddiolch i Rhianon am roi cyfle i mi siarad? Yn Nwyrain Abertawe, adeiladwyd dwy ysgol uwchradd newydd ac un ysgol gynradd newydd. Mae un ysgol gynradd newydd yn cael ei hadeiladu a gwnaed cais cynllunio i adeiladu ysgol uwchradd newydd arall. Cafwyd adeiladau parhaol yn lle adeiladau dros dro. Mae’r ysgolion newydd hyn yn gwella’r amgylchedd addysgol ar gyfer eu disgyblion. Siaradais â phennaeth un o’r ysgolion hyn a ddywedodd nad oes pryder rhagor pan fydd hi’n bwrw glaw ynglŷn â lle bydd y dŵr yn dod i mewn. Maent yn gwella’r strydoedd yn yr ardal ac yn gwneud iddi edrych yn well ar gyfer y rhai sy’n byw o’i hamgylch. Maent yn darparu gwaith ac yn hwb i’r economi leol. Rwy’n cofio pan oedd adeiladu ysgolion newydd yn golygu ein bod yn disgwyl iddynt bara ymhell dros 400 o flynyddoedd. Gadewch i ni obeithio y bydd y cynllun hwn yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod.
Da iawn; dyna chi—mae wedi dangos i chi sut i’w wneud. Hannah Blythyn.
Diolch i chi, a diolch i’r Aelod dros Islwyn am y cyfle hwn i siarad am y ganolfan ddysgu newydd wych sy’n cael ei hadeiladu yn Nhreffynnon, gwaith sy’n agosáu at ei gamau olaf, yn fy etholaeth i. Yn wir, roeddwn yn meddwl tybed a ddylwn ddatgan buddiant bach damweiniol am fod y safle’n bwysig iawn i mi gan mai dyna ble roedd hen Ysgol Ramadeg Treffynnon lle y cyfarfu fy rhieni yn y chweched dosbarth. Ond a bwrw ymlaen yn gyflym i’r unfed ganrif ar hugain a heddiw, i ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, mae’n fwy na brics a morter, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod; mae’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir y Fflint, yn fy achos i, i fuddsoddi yn ein cymuned a’n dyfodol. Mae Ysgol Treffynnon, fel y bydd yn cael ei galw, yn adeilad mawr a fydd yn adfer balchder ac mae ganddi uchelgeisiau hyd yn oed yn fwy ar gyfer ein cymuned i sicrhau bod yr ysgol yn dod yn ganolbwynt i’r gymuned, canolfan o weithgaredd yn y nos ac yn ystod y dydd, lleoliad ar gyfer chwaraeon a chlybiau hamdden, nosweithiau ymgysylltu ar gyfer teuluoedd sy’n anodd eu cyrraedd, a fforwm i roi cymorth a chyngor i deuluoedd, gan roi’r ysgol wrth galon y gymuned go iawn. Mae’r pennaeth yn Nhreffynnon yn dymuno diolch i’r rhai sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd, oherwydd, yn ei eiriau ef, ‘Maent wedi helpu i sicrhau dyfodol llawer mwy disglair ac addawol ar gyfer ein disgyblion yn yr hyn sy’n ddatganiad clir a gweladwy yng Nghymru fod Cymru’n gofalu am ei phobl ifanc a’i dyfodol.’
Diolch yn fawr iawn. Hefin David.
Iawn, fersiwn fer fer. Gwnaeth Rhianon waith gwych fel aelod o’r cabinet dros addysg ac yn awr mae hi wedi camu i lawr i fod yn Aelod Cynulliad. Yr wythnos diwethaf, ymwelais ag Ysgol Gyfun Heolddu, sydd wedi elwa o floc technoleg newydd, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac roedd Kirsty Williams yno i’w agor, ac roedd yn achlysur gwych—‘I bawb ei gyfle’ yw arwyddair yr ysgol. Yn olaf, mae ysgolion yr unfed ganrif ar hugain wedi arwain at adeiladu’r Gwyndy yn nhref Caerffili, campws newydd Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Ysgol Gynradd Cwm Ifor ym Mhenyrheol, ac Ysgol Gynradd Greenhill yng Ngelli-gaer, lle rwy’n byw, ac mae’n wych gallu croesawu ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Am raglen ragorol; hollol wych.
David Rees.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn gyflym iawn, iawn. [Chwerthin.] A gaf fi ddiolch i’r Aelod yn gyntaf oll am ddod â’r mater pwysig hwn i’r Siambr, oherwydd yr hyn rydym yn ei wneud yw darparu cyfleoedd i’n plant ifanc mewn cyfleusterau newydd modern er mwyn sicrhau eu bod yn gallu datblygu i mewn i’r unfed ganrif ar hugain? Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ofyn un peth. Byddaf yn gyflym. Mae’r cynllun busnes, pan edrychwn ar y pethau hyn, yn bwysig, oherwydd weithiau rydym yn symud ysgolion allan o gymunedau. Mae angen i ni sicrhau na niweidir y cymunedau hynny mewn unrhyw ffordd, a hefyd ein bod yn darparu llwybrau diogel i’r ysgol i rai o’r plant hynny hefyd. Felly, fel rhan o’r cynllun, a fyddech cystal â sicrhau bod hynny’n digwydd pan fyddwn yn adeiladu’r cyfleusterau newydd sy’n wych ar gyfer y plant ifanc hynny?
Yn olaf, Huw Irranca-Davies.
Ysgol Uwchradd Maesteg, Coleg Cymunedol y Dderwen, Ysgol Gynradd Bro Ogwr—
Na, na, na. [Chwerthin.]
[Yn parhau.]—Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath ym Mracla a ariennir ar y cyd—mae’r rhestr o fuddsoddiadau yn ddiddiwedd. Mae mwy i’w wneud, ond yr unig beth sy’n rhagori ar y buddsoddiad mewn brics a morter, rhaid i mi ddweud, yw llafur cariad athrawon a staff cymorth, llywodraethwyr a rhieni i wella cyfleoedd bywyd ein plant a’n pobl ifanc.
Felly, yn y cyfnod anodd o bwysau cynyddol ar gyllidebau dan bwysau, a gaf fi gymeradwyo’r arweiniad parhaus gan Lywodraeth Cymru, ac awdurdodau lleol fel Pen-y-bont ar Ogwr, a’r aelod Cabinet Huw David, sy’n buddsoddi yn ein hysgolion ac yn buddsoddi yn nyfodol ein pobl ifanc ?
Da iawn. Nawr, Rydych i gyd wedi profi y gallwch wneud areithiau byr iawn a dal i wneud eich pwyntiau, felly rydym yn disgwyl i hynny barhau. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i’r Aelod am gyflwyno’r ddadl hon y prynhawn yma. A gaf fi ei llongyfarch ar ei dadl fer gyntaf, ac yr araith a gyflwynodd mor huawdl?
Fel y clywsom gan Hannah Blythyn, yn wir, nid rhaglen adeiladu yn unig yw ysgolion, ond lle i ramant flodeuo hefyd, mae’n amlwg. Rwy’n ddiolchgar i’r Aelodau eraill am eu cyfraniadau. Rwy’n siŵr y bydd eu hysgolion yn gwerthfawrogi’n fawr eu bod wedi cael eu henwi yma y prynhawn yma.
Nawr, y rhaglen ysgolion ac addysg ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yw’r buddsoddiad cyfalaf mwyaf yn ein seilwaith addysgol ers y 1960au. Fel y clywsom gan Rhianon, yn ystod pum mlynedd gyntaf y rhaglen hon bydd buddsoddiad o £1.4 biliwn wedi’i wneud i dalu am ailadeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau ledled Cymru. Bydd pob un o’r 22 awdurdod lleol yn elwa ar y buddsoddiad hwn yn ein hysgolion a’n colegau, gyda Llywodraeth Cymru yn ariannu 50 y cant ohono. Ers ei lansio yn 2014, mae 105 o brosiectau wedi’u cymeradwyo o fewn y rhaglen. O’r rhain, mae 78 naill ai’n cael eu hadeiladu neu, rwy’n falch o ddweud, wedi’u cwblhau.
O’r cychwyn cyntaf, mae’r rhaglen hon yn ehangach nag adeiladu’n unig; fe’i cynlluniwyd i sicrhau buddsoddiad strategol ar draws ein cenedl a bydd hyn yn parhau. Mae’r rhaglen yn gyrru tri maes allweddol: lleihau adeiladau ysgolion mewn cyflwr gwael gan wneud ein stoc adeiladau yn fwy effeithlon i’w rhedeg; a lleihau nifer y lleoedd dros ben fel y gallwn ateb galw disgyblion lleol.
Mae’r rhaglen hefyd wedi’i chynllunio i roi sylw i anghenion ehangach dysgwyr, megis yr angen a’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac am addysg ffydd. Drwy gael yr ysgolion cywir yn y cyflwr cywir, gallwn greu sylfaen asedau sy’n addas ar gyfer y dyfodol. A thrwy wneud yr asedau hyn yn fwy effeithlon ac addas ar gyfer addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain, gallwn sicrhau y gall ein hathrawon ganolbwyntio nid ar fwcedi, Mike, ond ar addysgu, fel y gellir gwthio safonau addysgol yn eu hysgolion yn eu blaen ac i fyny.
Yn olaf, drwy wneud yn siŵr fod ein hysgolion o’r maint cywir ac yn y lle iawn, gallwn sicrhau ein bod yn ateb galw disgyblion yn awr ac yn y dyfodol. Mae’r rhaglen hon yn symud ymlaen, a hynny’n bennaf, fel y nododd Huw Irranca-Davies, o ganlyniad i natur arloesol a chydweithredol y buddsoddiad hwn. Yn wir, rydym yn gweithio ar sail cydadeiladu, sy’n arwain at bartneriaethau cryf rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol unigol ac eraill ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn parhau, ond hoffwn weld y rhaglen yn cyflymu. Byddaf yn gofyn i swyddogion, ac yn gweithio gyda hwy i weld beth y gallwn ei wneud i gyflawni hynny.
Nid ymwneud â darparu adeiladau yn unig y mae’r buddsoddiad hwn, fodd bynnag. Rydym yn awyddus i hybu gwerth go iawn drwy’r rhaglen, gan sicrhau ein bod yn darparu amgylcheddau sy’n ysbrydoli ac yn gosteffeithiol. Hyd yma, cwblhawyd 41 o brosiectau ac mae’r rhain yn cynnwys cyfleusterau newydd modern, megis y rhai yn Ysgol Gymunedol Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf ac Ysgol Uwchradd y Rhyl yn Sir Ddinbych. Gyda’i gilydd, mae’r ysgolion hyn yn darparu lleoedd ar gyfer 2,800 o ddisgyblion. Fodd bynnag, mae’r buddsoddiad hwn yn ymwneud â mwy na dysgwyr; mae hefyd yn ymwneud ag ysgogi gwerth i’r gymuned ehangach o amgylch ein hysgolion a’n colegau—er enghraifft, drwy ddarparu cyfleusterau ychwanegol drwy ein hysgolion i’r ysgol a’r cyhoedd allu eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth feithrin, ystafelloedd cymunedol, cyfleusterau hamdden megis caeau 3G a 4G newydd, ac o wneud hynny, mae’n cysylltu â’n dyheadau sy’n deillio o’n Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Hefyd ni ddylem anwybyddu’r cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant sy’n deillio o fuddsoddiadau cyfalaf o’r math hwn. Drwy ein defnydd o fframweithiau caffael rhanbarthol, rydym yn creu buddion cymunedol megis hyfforddiant, cyfleoedd prentisiaeth, ymwneud ysgol mewn pynciau STEM a chreu swyddi. Rydym hefyd yn gweld manteision enfawr i’r gadwyn gyflenwi leol, wrth weld ein buddsoddiad yn darparu swyddi a thwf ar gyfer pobl Cymru.
Mae’r rhaglen hyd yn hyn wedi cael cefnogaeth ysgolion sy’n ateb gofynion lleol am ddarpariaeth addysgol, megis Ysgol Bro Teifi, yr ysgol newydd 3-19 oed yn Llandysul, Ysgol Hafod Lon, sy’n darparu cyfleusterau anghenion arbennig yng Ngwynedd, lleoedd cynradd yn ein prifddinas yma yng Nghaerdydd a buddsoddiad mewn darpariaeth uwchradd Gymraeg yn Ysgol Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.
Ar hyn o bryd mae gennym nifer o gynlluniau mawr yn cael eu hadeiladu, ac rwyf wedi gweld cynnydd Ysgol Uwchradd newydd Islwyn sy’n werth £25.5 miliwn, ac sy’n mynd i ddarparu lleoedd ar gyfer 1,100 o ddisgyblion yng Nghaerffili, Ysgol Uwchradd y Dwyrain yng Nghaerdydd ar gyfer 1,200 o ddisgyblion ac ysgol gynradd Cyffordd Llandudno yng Nghonwy, sydd i gyd yn enghreifftiau ardderchog o’r hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer disgyblion, y staff a’r gymuned ehangach.
Ond nid yw dysgu ôl-16 wedi cael ei anghofio. Maent hwy hefyd wedi bod yn rhan bwysig o’r prosiect hwn, gyda buddsoddiad yng nghampws Coleg Caerdydd a’r Fro yng Nghaerdydd sy’n werth £40 miliwn a chanolfan ôl-16 gyda Choleg Cambria yn Sir y Fflint.
Rhagwelir y bydd cyflwyno’r rhaglen fuddsoddi strategol bwysig hon yn rhedeg dros nifer o fandiau buddsoddi. Mae ein rhaglen gyfredol gwerth £1.4 biliwn yn rhedeg tan 2019 ac mae fy swyddogion yn awr yn gweithio ar ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi pellach y tu hwnt i’r dyddiad hwnnw. Os bydd y rhai a ymgyrchodd i adael yr Undeb Ewropeaidd yn cadw eu haddewidion, ni ddylai fod unrhyw effaith negyddol ar y rhaglen hon.
Mae’r buddsoddiad mawr hwn yn ein hysgolion a’n colegau er budd cenedlaethau o ddysgwyr yng Nghymru yn y dyfodol yn llawer mwy na rhaglen adeiladu. Mae’n rhan o ymagwedd gyfannol ehangach y Llywodraeth hon ar draws addysg, adfywio a chyflogaeth. Bydd ein hysgolion a’u cymunedau ehangach, os gallwn barhau i gyflawni hyn, yn dod i berthyn i’r unfed ganrif ar hugain go iawn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch.