Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Un o gynhyrchion amaeth mwyaf adnabyddus sir Benfro—un sydd yn rhan o’r parthau nitradau yma—yw tatws, wrth gwrs, ac mae gan datws cynnar sir Benfro statws PGI o dan y gyfundrefn Ewropeaidd bresennol, sydd yn galluogi ffermwyr a chynhyrchwyr i werthu’r tatws fel rhywbeth arbennig ac fel rhywbeth sy’n deillio o diriogaeth arbennig. Gan fod, yn ôl beth rwy’n ei ddeall, PGI yn mynd law yn llaw gydag aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, a oes gan y Llywodraeth gynlluniau neu unrhyw fwriad i gyflwyno rhywbeth tebyg i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd?