1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermwyr yn Sir Benfro? OAQ(5)0088(FM)
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi’r diwydiant ffermio yn sir Benfro er mwyn iddo ddod yn fwy proffidiol a chynaliadwy ac, wrth gwrs, i sicrhau bod ffermwyr yn gwneud elw yn y pen draw.
Brif Weinidog, mae’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn mynd i gael effaith fawr ar y diwydiant amaethyddol, ac mae’n bwysig nawr bod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi ein ffermwyr yn y dyfodol. Ond mae yna bryder enfawr ymysg ffermwyr yn sir Benfro ar hyn o bryd o’r posibilrwydd o gyflwyno parthau perygl nitradau. Oherwydd penderfyniad pobl Prydain, a Chymru, i adael yr Undeb Ewropeaidd, a allwch chi ddweud wrthym ni ble mae hyn yn gadael yr ymgynghoriad roedd eich Llywodraeth chi yn golygu ei gyflwyno ar barthau perygl nitradau? A ydy’r cynlluniau hyn nawr yn mynd mlaen?
Maen nhw’n dal i barhau, wrth gofio’r ffaith bod y gyfraith amgylcheddol sydd wedi cael ei throsglwyddo i gyfraith Cymru yn mynd i aros er bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddai’n fater wedyn i Lywodraeth Cymru benderfynu pa gyfreithiau i gadw yn y pen draw, a pha gyfreithiau na fyddent yn cael eu cadw yn y pen draw.
Mae nifer o ffermwyr yn sir Benfro a thu hwnt yng Nghymru eisoes wedi arallgyfeirio i fewn i dwristiaeth. Yn sgil y bleidlais yna ar y refferendwm—ac mae Paul eisoes wedi sôn am y ffaith bod cymaint o ansicrwydd nawr ymysg ffermwyr—a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i hyrwyddo twristiaeth ac i annog mwy o ffermwyr i ddilyn y trywydd yna?
Mae’n wir i ddweud ein bod ni wedi cefnogi ffermwyr i wneud hynny dros y blynyddoedd diwethaf drwy gynlluniau fel Cyswllt Ffermio er enghraifft, a thrwy’r cynllun datblygu gwledig. Mae’n bwysig dros ben ein bod ni’n sicrhau bod pob ffordd i wneud arian yn cael ei roi o flaen ffermwyr er mwyn sicrhau bod eu ffermydd nhw yn fwy cynaliadwy.
Un o gynhyrchion amaeth mwyaf adnabyddus sir Benfro—un sydd yn rhan o’r parthau nitradau yma—yw tatws, wrth gwrs, ac mae gan datws cynnar sir Benfro statws PGI o dan y gyfundrefn Ewropeaidd bresennol, sydd yn galluogi ffermwyr a chynhyrchwyr i werthu’r tatws fel rhywbeth arbennig ac fel rhywbeth sy’n deillio o diriogaeth arbennig. Gan fod, yn ôl beth rwy’n ei ddeall, PGI yn mynd law yn llaw gydag aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd, a oes gan y Llywodraeth gynlluniau neu unrhyw fwriad i gyflwyno rhywbeth tebyg i Gymru wrth adael yr Undeb Ewropeaidd?
Bydd hyn yn hollbwysig, ond rydym yn ansicr ar hyn o bryd ynglŷn â beth yw’r sefyllfa. Pe bai statws PGI yn cael ei golli, byddai hynny’n bwrw nid yn unig tato yn sir Benfro, ond cig oen yn enwedig. Mae’r farchnad allforio cig oen yn bwysig dros ben, ac un o’r pethau sydd yn sicrhau ein bod ni’n gallu gwerthu ar draws y byd yw’r ffaith ein bod ni’n gallu rhoi gwarant i brynwyr bod y cig oen yn dod o Gymru a bod y cig oen hynny o’r safon uchaf. Mae’r un peth yn digwydd gyda thato, felly, petaem ni’n colli PGI a statws PDO hefyd, byddai’n rhaid sicrhau bod gyda ni statws cyfartal yng Nghymru er mwyn i brynwyr allu cael yr un hyder.