Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Rydym ni’n parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd llwyddiannus. Nid ydym wedi cael ymateb gan Lywodraeth y DU eto, fodd bynnag, o ran sicrwydd ganddyn nhw y byddai yr elfen ariannu yn y cytundeb hwnnw sy’n dod o gyllid Ewropeaidd yn cael ei anrhydeddu ganddyn nhw, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith uniongyrchol ar arian cyfatebol ar gyfer y cytundeb dinas.