1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Gorffennaf 2016.
2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer Bargen Ddinesig Caerdydd? OAQ(5)0097(FM)
Rydym ni’n parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau cytundeb prifddinas-ranbarth Caerdydd llwyddiannus. Nid ydym wedi cael ymateb gan Lywodraeth y DU eto, fodd bynnag, o ran sicrwydd ganddyn nhw y byddai yr elfen ariannu yn y cytundeb hwnnw sy’n dod o gyllid Ewropeaidd yn cael ei anrhydeddu ganddyn nhw, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael effaith uniongyrchol ar arian cyfatebol ar gyfer y cytundeb dinas.
Y metro yw un o elfennau allweddol y cytundeb dinas, a gallai weddnewid gwasanaethau trafnidiaeth yn y de a'r cymoedd. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud, mae swm sylweddol o arian y prosiect nad yw wedi ei gadarnhau hyd yn hyn. Pa gyfle fyddai gan y Prif Weinidog i drafod yn uniongyrchol ag Ewrop am barhad yr arian hwnnw neu gael gweddill yr arian hwnnw?
Fel y mae pethau’n sefyll, cyn gynted ag y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yna bydd mynediad at y cyllid hwnnw’n dod i ben. Nawr, rwy'n sefydlu tîm ym Mrwsel i ystyried trafod ar ran Cymru yn gyfochrog â'r DU, gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Ond, os nad yw'r arian Ewropeaidd yn cael ei dalu gan Lywodraeth y DU, yna, yn amlwg, mae hynny'n gadael twll yn y cyllid a bydd yn rhaid i ni ddiwygio'r cynlluniau sydd gennym ar hyn o bryd.
Cyn i mi ddod at gwestiwn, cefais fy heclo gennych chi yr wythnos diwethaf, ac fe wnaethoch chi fy ngalw i’n llwfrgi yn eglur. Byddwn yn awgrymu, yn y dyfodol, eich bod yn ymddwyn mewn ffordd fwy—
Cwestiwn yw hwn. Cwestiwn yw hwn. Gofynnwch gwestiwn, os gwelwch yn dda, Mr McEvoy.
Gyda phob parch, rwyf yn gofyn i'r Prif Weinidog ymddwyn yn debycach i Brif Weinidog.
Gofynnwch eich cwestiwn.
Mae fy nghwestiwn i’n dod nawr, ond mae fy natganiad yn parhau.
Rwyf newydd gadeirio cynhadledd ar y cytundeb dinas—
Gofynnwch eich cwestiwn.
Rwyf i yn gofyn fy nghwestiwn, gyda pharch, Lywydd, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny. [Torri ar draws.] Rwyf newydd gadeirio cynhadledd ar y cytundeb dinas. [Torri ar draws.]
Gofynnwch eich cwestiwn, Mr McEvoy.
Rwyf newydd gadeirio—
Rwy’n meddwl ein bod ni’n gwybod erbyn eich bod chi newydd gadeirio rhywbeth. Dywedwch wrthym ni beth ydyw, a gofynnwch eich cwestiwn.
Roedd cannoedd o gynadleddwyr, o'r trydydd sector, o’r Llywodraeth, ac eto dim ond un person oedd yno o fusnes lleol. Fy nghwestiwn i yw: pam nad yw cymunedau lleol a pham nad yw busnesau lleol yn cael eu cynnwys yn y cytundeb dinas? Busnesau bach yw asgwrn cefn yr economi hon ac eto prin y mae eu llais yn cael ei glywed. Pam mae hynny?
Wel, os mai fe wnaeth ei gadeirio, nid wyf yn synnu mai ychydig iawn o fusnesau oedd yno, mae'n rhaid i mi ddweud. Y gwir amdani yw y bydd busnesau yn rhan hynod bwysig o'r cytundeb dinas, a byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a busnesau i wneud yn siŵr y gellir sicrhau cymaint o fanteision â phosibl o’r cytundeb.
Brif Weinidog, rydym ni wedi clywed bod y cytundeb metro yn ganolog i'r holl gysyniad hwn. Yn anffodus, bythefnos yn ôl, rwy’n meddwl ein bod wedi sylweddoli bod gagendor mawr rhwng ardaloedd fel Caerdydd ac ardaloedd y cymoedd i'r gogledd, ac adlewyrchwyd hyn yn y patrwm pleidleisio. Ac mae'r metro yn rhoi cyfle i ni integreiddio dyfodol economaidd y ddwy ran bwysig iawn hyn o economi’r de.
Rwy’n cytnuo’n llwyr â hynny. Mae cysyniad y metro wedi ei gynllunio i wneud dau beth, yn bennaf. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, i'w gwneud yn haws i'r rhai sydd â swyddi yng Nghaerdydd i deithio yn gyflym i mewn i Gaerdydd, ond hefyd i ddenu buddsoddiad oddi wrth yr arfordir ac ymhellach i fyny'r cymoedd, ac i gael gwared ar y dybiaeth honno bod ein cymunedau yn y cymoedd gogleddol yn anodd eu cyrraedd. Rydym ni’n gwybod nad yw hynny'n wir. Rydym ni’n gwybod, gyda'r cynlluniau ffyrdd a roddwyd ar waith eisoes, ac rydym ni’n gwybod, gyda'r cynllun metro, y byddwn yn gallu dweud wrth fuddsoddwyr bod ein cymunedau yn y cymoedd wedi eu cysylltu ag economi ehangach y de-ddwyrain, ac felly maen nhw’n gymunedau y dylid buddsoddi ynddynt. Ac rydym ni’n dechrau gweld ffrwyth hynny gyda phenderfyniad TVR i fuddsoddi.