Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Fel y mae pethau’n sefyll, cyn gynted ag y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yna bydd mynediad at y cyllid hwnnw’n dod i ben. Nawr, rwy'n sefydlu tîm ym Mrwsel i ystyried trafod ar ran Cymru yn gyfochrog â'r DU, gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Ond, os nad yw'r arian Ewropeaidd yn cael ei dalu gan Lywodraeth y DU, yna, yn amlwg, mae hynny'n gadael twll yn y cyllid a bydd yn rhaid i ni ddiwygio'r cynlluniau sydd gennym ar hyn o bryd.