Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
Wel, ni allaf ond dyfynnu’r hyn y mae'r Ysgrifennydd Tramor wedi ei ddweud ac, yn wir, y sawl a allai eto fod yn Brif Weinidog y DU, sydd wedi dweud nad yw’r hawliau hynny wedi eu gwarantu. Nawr, mae angen i ni gael eglurder ac mae angen ymateb gan yr Ysgrifennydd Cartref presennol cyn gynted â phosibl fel y gall pobl gael sicrwydd, i lawer o bobl sydd wedi byw yn y DU ers blynyddoedd lawer, na fyddant yn colli eu hawliau preswylio. Mae’r eglurder hwnnw’n hanfodol.