<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:37, 5 Gorffennaf 2016

Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau, ac yn gyntaf yr wythnos yma, arweinydd yr wrthblaid, Leanne Wood.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Brif Weinidog, mae system wleidyddol San Steffan mewn argyfwng, gyda thwyll ac anfadwaith yn digwydd yn y Blaid Geidwadol a’ch plaid eich hun yn Llundain. Ac mae hyn wedi cael effaith fawr ar Gymru ac ar ddyfodol ein gwlad. A fyddai'r Prif Weinidog yn barod i gael gair gydag ASau Cymru i ddweud wrthynt am gallio ac i wneud eu gwaith, sef dwyn y Llywodraeth Geidwadol i gyfrif, a gwneud yn siŵr bod Cymru'n cael pob ceiniog o'r arian a addawyd i ni pe byddai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:38, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf yn mynd i esgus wrth arweinydd yr wrthblaid bod pethau’n sefydlog yn San Steffan—mae hynny yno i bawb ei weld. Ond gallaf ddweud, o’n safbwynt ni fel Llywodraeth, byddwn yn brwydro am bob un geiniog sy’n ddyledus i Gymru, ac rwy’n gwbl hyderus y bydd pawb sy'n cynrychioli fy mhlaid yn San Steffan yn gwneud hynny hefyd.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, rwy'n siomedig nad ydych chi’n barod i ddangos rhywfaint o arweinyddiaeth ar y cwestiwn hwn. Os nad ydych chi’n barod i gael gair gyda'ch ASau eich hun, efallai y byddan nhw’n barod i wrando ar y neges hon gennyf i: mae pleidleiswyr yn ein hetholaethau eisiau i ni fod yn llais iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn. Maen nhw eisiau i ni fynd i'r afael â'r hiliaeth sydd wedi codi yn ein cymunedau, maen nhw eisiau i ni fynd yn ôl i'r gwaith, ac maen nhw eisiau ein gweld ni’n symud ein gwlad yn ei blaen. Nawr, y peth olaf sydd ei angen arnyn nhw ar hyn o bryd yw mwy o raniadau a mwy o ymladd mewnol.

Yn y cyfarfod cyhoeddus yr oeddwn i’n rhan ohono neithiwr yn Aberystwyth, Brif Weinidog, clywais gan ŵr ifanc y mae ei deulu o dras Almaenig, ac maen nhw’n pryderu am eu dyfodol. Nid ydyn nhw’n gwybod pa hawliau fydd ganddyn nhw, maen nhw’n poeni am adroddiadau yn y wasg ei bod yn bosibl iawn y gallai eu statws fod ar y bwrdd yn y trafodaethau. Nawr, mae llawer o blant wedi bod yn gofyn cwestiynau i’w rhieni pan eu bod yn y sefyllfa hon, ac mae rhieni yn ei chael hi'n anodd iawn ateb y cwestiynau hynny pan fo cymaint nad yw’n hysbys. Nawr, rwy’n gobeithio y gallwch chi ymdrin â hyn yn fwy cynhwysfawr yn y cwestiwn brys yn ddiweddarach, ond mae angen i ni fod yn eglur bod dinasyddion yr UE o fudd net i Gymru. Dylem i gyd ddweud bod croeso i bob un ohonyn nhw yma ac na ddylent orfod gadael y wlad hon os neu pan fydd Brexit yn digwydd yn y pen draw.

Brif Weinidog, pa sicrwydd allwch chi ei roi i bobl sy'n byw yng Nghymru sy'n dod o rannau eraill o Ewrop y byddwch chi’n eu cefnogi nhw, eu hawliau a'u teuluoedd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:40, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mewn ffordd, mae hynna’n rhoi cyfle i mi ateb y cwestiwn brys nawr, ac rwyf yn hapus i wneud hynny. Rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ac rwyf wedi dweud wrthi, cyn belled ag y mae Llywodraeth Cymru yn y cwestiwn, ein bod yn credu y dylai dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU gadw'r hawl i wneud hynny ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae hi a minnau o’r un safbwynt ar hynny. Rwy'n credu ei bod yn gwbl anghywir defnyddio dinasyddion yr UE sy'n byw yn y DU fel testun bargeinio mewn trafodaethau; mae'n gwneud iddyn nhw swnio fel pe bydden nhw’n wystlon. Nid gwystlon ydyn nhw; Mae croeso iddyn nhw yng Nghymru.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:41, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Nawr, mewn gwahanol gyfarfod yr es i iddo ddoe yng Nghaerdydd, clywais gan gynrychiolydd un o'r sectorau a fydd yn cael eu heffeithio'n helaeth gan y bleidlais Brexit. Fe’n hysbyswyd y gallai'r sector addysg bellach a sgiliau golli £760 miliwn o gyllid yn y dyfodol os na chaiff yr arian hwnnw ei ddarparu. Os a phan nad yw’r cyllid hwnnw’n cael ei ddarparu, y bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio fwyaf fydd y rhai sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad gyflogaeth. Dim ond un sector o gymdeithas ddinesig Cymru yw hwnnw, ac mae'n dangos pa mor bwysig yw ein haelodaeth o’r UE a'r manteision sydd yno ac na ddylent eu taflu i ffwrdd.

A ydych chi’n cytuno â mi bod y lleisiau hynny o'r gymdeithas ddinesig yn haeddu cael eu clywed pan gaiff telerau Brexit eu trafod, ac a wnewch chi fabwysiadu safbwynt negodi swyddogol i Gymru, i'w gytuno gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn a'i anfon at Brif Weinidog newydd y DU? Ac, os na allwch chi ddwyn yr arweinydd Torïaidd newydd yn San Steffan i gyfrif am yr addewidion a wnaed yn ymgyrch refferendwm yr UE, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y bydd y lleoedd prentisiaeth, y cyrsiau hyfforddi a’r cynlluniau dychwelyd i'r gwaith hynny sydd o fudd i rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ar hyn o bryd, ar gael i'r bobl hynny yn y dyfodol?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:42, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, mae hi'n iawn i dynnu sylw at y bwlch ariannu a fyddai'n bodoli. Yn ail, mae hi a minnau wedi trafod yr hyn y dylai'r safbwynt negodi fod ac rwy'n ddigon hapus i’w rannu â'r Siambr: hynny yw, yn gyntaf, y byddwn yn archwilio pob llwybr posibl sydd o fudd i Gymru; yn ail, rwyf eisoes wedi gofyn i'r Ysgrifennydd dros yr economi gyhoeddi cyfres o fesurau i ddiogelu swyddi a chynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd ac mae ef wedi gwneud hynny. Ddoe, cafodd yr ysgrifennydd dros yr amgylchedd a materion gwledig a minnau gyfarfod ag unigolion allweddol o sectorau amgylchedd ac amaethyddiaeth a physgodfeydd Cymru i drafod goblygiadau penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond, mae'n rhaid i mi ddweud bod dyletswydd ar y rhai a alwodd ar y DU i adael yr UE i sicrhau bod yr addewidion a wnaed ganddynt o ran cyllid i Gymru yn cael eu hanrhydeddu. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y dystiolaeth o hynny yn brinnach bob dydd. Y cwestiwn yw: a ddywedwyd y gwir wrth y cyhoedd yng Nghymru cyn y refferendwm neu a yw’r gwir yn dod i'r amlwg nawr?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol nad oes unrhyw gwestiwn y bydd dinasyddion yr UE sy'n byw neu’n gweithio yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd yn cael eu defnyddio fel testunau bargeinio mewn unrhyw ailnegodi, gan fod eu hawliau wedi eu diogelu’n llawn o dan gonfensiwn 1969 Vienna. A all y Prif Weinidog gadarnhau i mi fod hynny'n wir?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, ni allaf ond dyfynnu’r hyn y mae'r Ysgrifennydd Tramor wedi ei ddweud ac, yn wir, y sawl a allai eto fod yn Brif Weinidog y DU, sydd wedi dweud nad yw’r hawliau hynny wedi eu gwarantu. Nawr, mae angen i ni gael eglurder ac mae angen ymateb gan yr Ysgrifennydd Cartref presennol cyn gynted â phosibl fel y gall pobl gael sicrwydd, i lawer o bobl sydd wedi byw yn y DU ers blynyddoedd lawer, na fyddant yn colli eu hawliau preswylio. Mae’r eglurder hwnnw’n hanfodol.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:44, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Gan droi oddi wrth faterion yr UE, mae'r Prif Weinidog wedi crybwyll yn gwbl gywir y rhagolygon ar gyfer cyflogaeth yng Nghymru ar ôl i ni adael yr UE, a bydd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru’n eistedd ar hyn o bryd ar benderfyniad ynghylch cylchffordd Cymru. Roedd problem o ran hyn dros faint y warant y byddai ei hangen ar gyfer ariannu'r prosiect. Nawr rwy’n deall bod honno wedi cael ei lleihau i lai na 50 y cant o'r cyfanswm, felly nid yw'n ymddangos bod unrhyw reswm pam na allwn ni symud yn gyflym i benderfyniad i roi'r warant hon fel y gall y prosiect enfawr hwn a fydd yn creu swyddi fynd rhagddo. Felly, a allai'r Prif Weinidog ddweud wrthyf os gwelwch yn dda i ble’r ydym ni wedi cyrraedd ar hyn ar hyn o bryd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:45, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Bydd yr Ysgrifennydd dros yr economi yn gwneud cyhoeddiad ar Gylchffordd Cymru yr wythnos nesaf.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

O, iawn. Wel, rwy’n falch iawn o glywed hynny, gan ei fod yn hanfodol bwysig ar gyfer y de-ddwyrain cyfan ac, yn wir, ymhell y tu hwnt. Dyma’r prosiect adfywio mwyaf yr ydym ni wedi ei weld ers blynyddoedd lawer—£ 380 miliwn—ac nid wyf yn disgwyl y gall y Prif Weinidog ragweld cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy’n gobeithio y bydd yn derbyn gennyf i ei bod yn hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sêl bendith i'r prosiect hwn.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Bydd yr holl ffactorau hyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Rwy’n cymryd y byddaf yn cael fy atgoffa cyn i'r penderfyniad gael ei wneud—rwy'n siŵr y byddaf—ond gwn y bydd yr Ysgrifennydd dros yr economi yn gwneud cyhoeddiad yr wythnos nesaf ar gynnydd y cynllun hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, cyfeiriwyd gennych yn gynharach at y ffaith eich bod chi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig wedi cyfarfod â'r undebau ffermio a busnesau eraill o'r cymunedau gwledig ddoe. Yn ystod cwestiynau, bythefnos yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd yn credu mai ffermwyr—ac mae hwn yn ddyfyniad uniongyrchol—yw’r

'bobl orau i redeg busnes o bosibl'.

A ydych chi wir yn credu bod hyn yn wir, nad ffermwyr yw'r bobl orau i redeg eu busnesau eu hunain?

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddyfyniad uniongyrchol.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Gallaf ddweud bod y digwyddiad ddoe yn llwyddiannus iawn. Pwysleisiwyd i’r sector, sector yr amgylchedd yn gyntaf oll, y bydd yr holl ddeddfau amgylcheddol hynny sydd eisoes yng nghyfraith Cymru yn parhau. Yn ail, cyn belled ag y mae ffermio yn y cwestiwn, dim ond i bwysleisio'r pwynt, nid oes y fath beth â pholisi amaethyddol Prydain. Mae wedi ei ddatganoli’n llwyr. Felly, ceir cyfleoedd i’r diwydiant ffermio weithio gyda ni o ran sut y gallai cynllun ariannu edrych yn y dyfodol, pa gefnogaeth y gallant fod ei heisiau yn y dyfodol—er, wrth gwrs, mae hynny'n dibynnu ar yr arian yn cael ei roi ar gael gan Lywodraeth y DU i ddarparu'r gefnogaeth honno. Ac yn drydydd, wrth gwrs, o ran pysgodfeydd, yr hyn y dylid ei wneud â dyfroedd tiriogaethol Cymru o ran pwy ddylai gael pysgota ynddynt ac, yn ail, pa un a yw cychod o Gymru eisiau i ni drafod gyda gweinyddiaethau eraill o ran sicrhau hawliau pysgota iddyn nhw mewn dyfroedd eraill.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:47, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, roedd y dyfyniad a roddais i chi yn ddyfyniad uniongyrchol o Gofnod y Trafodion yma ac rwy’n nodi na wnaethoch chi ymbellhau eich hun o’r dyfyniad hwnnw.

Pe gallwn i hefyd ofyn cwestiwn i chi ar y llythyr a gyhoeddwyd gennych chi ar ddiwrnod y refferendwm, sef 23 Mehefin, am y cytundeb sydd gennych chi gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ac, yn benodol, yr honiad a wnaed gan Kirsty Williams fod y goblygiadau yn arwain at oblygiadau cyllidebol sylweddol o ran y naw ymrwymiad addysg a wnaed rhyngoch chi a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Beth yw cyfanswm yr ymrwymiad yr ydych chi wedi ei roi o safbwynt ariannol i fodloni’r ymrwymiad a wnaethpwyd gennych i'r Democratiaid Rhyddfrydol a ddaeth â nhw i mewn i’r Llywodraeth? Rwyf yn credu bod hwnnw’n gwestiwn rhesymol oherwydd, fel y dywedais, ‘goblygiadau cyllidebol sylweddol’ oedd y geiriau a ddyfynnwyd yn yr ohebiaeth'.

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Lle bynnag y ceir cyllid Ewropeaidd ar gyfer prosiect penodol, mae’n rhaid edrych yn ofalus ar y prosiect hwnnw pan ddaw'r cyllid Ewropeaidd hwnnw i ben. Roeddwn i’n meddwl bod hynny’n amlwg. Soniwyd am hynny eisoes gan arweinydd yr wrthblaid. Oni bai bod Llywodraeth y DU yn darparu arian yn lle’r arian hwnnw, fel yr addawyd, yna mae'n amlwg, yn y dyfodol, na fydd modd ariannu rhai cynlluniau yn y modd y byddem ni’n gobeithio ei wneud.

Mae'n hoff iawn o ddyfyniadau y prynhawn yma. Gadewch i mi gynnig rhai iddo fe. Ar 2 Mawrth, Andrew R.T. Davies yn siarad ar 'The Wales Report':

Gallaf sicrhau y byddai llywodraeth y DU yn gwneud yn siŵr y byddai’r arian hwnnw’n cael ei ailddosbarthu ymhlith rhanbarthau'r DU, neu fel arall byddai'n methu o ran ei gylch gwaith i ddarparu cymorth a chefnogaeth i'r genedl— y DU y mae’n ei olygu trwy hynny— y mae wedi ei hethol i lywodraethu. A dweud y gwir, ni allwn barhau i godi ofn ar bobl, eu gyrru nhw i'r blwch pleidleisio gan eich bod chi’n eu dychryn nhw i bleidleisio mewn un ffordd.

Ar 14 Mehefin:

Mae ymgyrchwyr am bleidlais i adael wedi dweud y byddai’r arian y mae Cymru'n ei gael gan Frwsel yn cael ei gynnal gan lywodraeth y DU pe byddai Brexit yn digwydd.

Rwy’n croesawu hynny.

Dywedodd Andrew R.T. Davies:

Mae'r cyhoeddiad heddiw i’w groesawu’n fawr ac yn dystiolaeth bellach y byddai Cymru’n well ei byd allan o'r Undeb Ewropeaidd. Er gwaethaf honiadau ffantasi y prif weinidog, rydym ni’n gwybod bellach y byddai cyllid ar gyfer pob rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, yn ddiogel pe byddem ni’n pleidleisio i adael.

Ar 21 Mehefin, dywedodd Andrew R.T. Davies wrth yr ‘Herald':

Gallai Cymru fod cymaint â hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn yn well ei byd os bydd y DU yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Iau...mae Uwch Weinidogion y Llywodraeth eisoes wedi addo cynnal cyllid presennol yr UE pe byddem ni'n pleidleisio i adael.

A chyllid ychwanegol—cyfran Barnett o £9.8 biliwn y gallai Cymru ei derbyn pe byddem ni’n gadael yr UE. A heddiw, dywedodd wrth y cyfryngau nad oedd yn ymwneud ag arian, roedd yn ymwneud â chanlyniadau. Nawr, y cwestiwn iddo ef yw hwn: a yw'n credu y dylai Llywodraeth y DU dalu pob un geiniog a gollwyd i Gymru? A yw’n cadw at ei ddyfyniadau—ac mae'n hoff o ddyfyniadau heddiw—neu a yw’n rhedeg i ffwrdd oddi wrthyn nhw y bore yma?

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:49, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n gwbl ryfeddol eich bod chi wedi gwastraffu cymaint o'ch amser—ond rwy'n ddigon hapus eich bod chi’n defnyddio fy nyfyniadau i, gan fod gennych chi cyn lleied i'w ddweud, Brif Weinidog. Rwy’n cadw at fy nyfyniadau ac rwy'n ddigon hapus i roi hynny ar y cofnod. Rwy'n eithaf hapus i ddadlau gyda chi ar unrhyw bryd, mewn unrhyw fan, Brif Weinidog, ar y buddion a welaf, a chymeradwywyd hynny gan y bobl yn y bleidlais ar y refferendwm ar 23 Mehefin. Mae’n hollol anhygoel i mi, ar ôl dau gwestiwn eglur iawn—un i ymbellhau eich hun oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet sydd wedi gwawdio craffter busnes ffermwyr, a’r llall, ynglŷn â'r cytundeb yr ydych chi wedi ei wneud gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i ddod â nhw i mewn i Lywodraeth sydd, yn eu geiriau eu hunain, â goblygiadau cyllidebol sylweddol i’ch Llywodraeth chi. Nid wyf yn credu bod y rhain yn gwestiynau ffôl i'w gofyn yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog gan eich bod wedi dweud yn ystod yr ymgyrch, ar gyfer pob ymrwymiad cyllideb newydd a wneid gan eich Llywodraeth y byddai’n rhaid cael toriadau mewn mannau eraill. Felly, naw wythnos erbyn hyn ar ôl yr etholiad, nid yw'n afresymol i arweinydd y Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad i ofyn y cwestiwn i chi, 'Iawn, rydych chi wedi ymrwymo’r arian hwn i ymrwymiadau’r Democratiaid Rhyddfrydol; o ble ydych chi'n cael yr arian hwnnw?' Nid yw'n ymwneud â'r bleidlais Brexit. Mae'n ymrwymiad a wnaed gennych cyn y bleidlais Brexit gan y bu'r trafodaethau hyn cyn y bleidlais Brexit. Felly, o ble mae'r arian yn dod i fodloni’r ymrwymiadau ariannol sylweddol yr ydych chi wedi eu cytuno gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer y dyfodol? A allem ni gael ateb syml, uniongyrchol, neu ai’r ffaith syml yw nad ydych chi’n gwybod?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddyfynnu ymadrodd Belfast da wrtho? Mae'n byw mewn byd o losin llygod gwyn, oherwydd, mi ddywedaf i wrthych chi beth, os yw e'n credu rywsut y gall ddianc rhag y ffaith ei fod wedi siomi pobl Cymru heddiw trwy ddweud na fydd yn brwydro i bob un geiniog gael ei thalu i Gymru—. Cafodd gyfle i ddatgan ei safbwynt—methodd â gwneud hynny. Mae'n iawn i nodi y bydd anawsterau cyllidebol. Mae hynny'n wir, gan y byddwn ni’n colli arian yr UE—bydd £650 miliwn y flwyddyn yn cael ei golli o'n cyllideb o ganlyniad i Brexit. Nawr, os bydd yr holl arian hwnnw’n cael ei dalu, fel yr addawodd—fel yr addawodd dair gwaith—oddi wrth Lywodraeth y DU, yna bydd hynny’n helpu. Nawr, y cwestiwn iddo ef yw hwn: a fydd e'n sefyll dros bobl Cymru, neu a fydd e'n rhedeg i ffwrdd oddi wrth y llanast y mae wedi ei greu?