Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 5 Gorffennaf 2016.
O, iawn. Wel, rwy’n falch iawn o glywed hynny, gan ei fod yn hanfodol bwysig ar gyfer y de-ddwyrain cyfan ac, yn wir, ymhell y tu hwnt. Dyma’r prosiect adfywio mwyaf yr ydym ni wedi ei weld ers blynyddoedd lawer—£ 380 miliwn—ac nid wyf yn disgwyl y gall y Prif Weinidog ragweld cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy’n gobeithio y bydd yn derbyn gennyf i ei bod yn hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi sêl bendith i'r prosiect hwn.