<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 5 Gorffennaf 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:46, 5 Gorffennaf 2016

(Cyfieithwyd)

Gallaf ddweud bod y digwyddiad ddoe yn llwyddiannus iawn. Pwysleisiwyd i’r sector, sector yr amgylchedd yn gyntaf oll, y bydd yr holl ddeddfau amgylcheddol hynny sydd eisoes yng nghyfraith Cymru yn parhau. Yn ail, cyn belled ag y mae ffermio yn y cwestiwn, dim ond i bwysleisio'r pwynt, nid oes y fath beth â pholisi amaethyddol Prydain. Mae wedi ei ddatganoli’n llwyr. Felly, ceir cyfleoedd i’r diwydiant ffermio weithio gyda ni o ran sut y gallai cynllun ariannu edrych yn y dyfodol, pa gefnogaeth y gallant fod ei heisiau yn y dyfodol—er, wrth gwrs, mae hynny'n dibynnu ar yr arian yn cael ei roi ar gael gan Lywodraeth y DU i ddarparu'r gefnogaeth honno. Ac yn drydydd, wrth gwrs, o ran pysgodfeydd, yr hyn y dylid ei wneud â dyfroedd tiriogaethol Cymru o ran pwy ddylai gael pysgota ynddynt ac, yn ail, pa un a yw cychod o Gymru eisiau i ni drafod gyda gweinyddiaethau eraill o ran sicrhau hawliau pysgota iddyn nhw mewn dyfroedd eraill.